Skip to main content
Dyfodol ar y llwyfan i fyfyrwyr CGA

Dyfodol ar y llwyfan i fyfyrwyr CGA

Mae bron 30 o fyfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael cynnig lle yn rhai o golegau a phrifysgolion drama mwyaf nodedig yn y DU.

“Mae ein myfyrwyr y Celfyddydau Perfformio wedi cael y deuddeg mis mwyaf rhagorol ac mae’r straeon hyn am ddilyniant llwyddiannus yn ffordd wych o orffen y flwyddyn academaidd,” dywedodd Rheolwr y Maes Dysgu, Lucy Hartnoll.

“Nid yn unig maen nhw wedi llwyfannu cynyrchiadau hynod lwyddiannus  megis Disney’s Aladdin Jr, roedd ein Cwmni Actio yn ddigon ffodus i weithio gyda Richard Mylan a Simon Slater ar Generation O yn Theatr y Grand. Roedd y ddau yn rhan o’r cynhyrchiad Killology yn Theatr Royal Court a enillodd Gwobr Olivier. Roedd cael pobl broffesiynol cystal â nhw yn gweithio ochr yn ochr â’n myfyrwyr ar sioe fyw yn brofiad anhygoel i bawb.”

Y myfyrwyr sydd wedi cael cynigion yw:

Noa Radford; Tom Bytheway; Jacob Young; Kiera Ellis; Billy Rees; Ben Thomas; Cameron Webb; Cody Evans; Fraya Jones; Ffion Davies; Emily Jones; Cerys Sprake; Ashley Williams; Eve Harris; Georgia Whitehorn; Aisha Thomas; Carl Francisco; Joe Murphy; Eve Burridge; Laura Cooke; Lewis Francis; Rhys Horton; Charley South; Sophie Mclean; Jake Kingston; Jake Porter; Chloe Williams; ac Aaron Harvey.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau amser llawn mewn drama, y celfyddydau perfformio a chynhyrchu yn y theatr a digwyddiadau byw. Mae’r rhain yn cynnwys Lefel 2 a Lefel 3 y Celfyddydau Perfformio, Safon Uwch Drama, Safon Uwch Dawns, Lefel 3 Theatr Dechnegol a chwrs actio arbenigol ar Lefel 3.

O fis Medi 2018, mae’r Coleg hefyd yn cynnig cwrs Lefel 4 TystAU Theatr Gerdd mewn partneriaeth â Phrifysgol Swydd Gaerloyw.

Cyn symud ymlaen i borfeydd newydd, bydd y myfyrwyr hyn yn llwyfannu cynhyrchiad o West Side Story yn Theatr Taliesin ar 11 a 12 Mai – mae tocynnau ar werth nawr.  

Myfyriwr

Cynigion Cwrs

Noa Radford

Y Drindod Dewi Sant (BA Perfformio)

Prifysgol Chichester (BA Theatr Gerdd)

Tom Bytheway

 

Prifysgol Chichester (BA Anrh Cerddoriaeth a Theatr Gerdd)

Y Drindod Dewi Sant (BA Perfformio)

Ysgol Actio Guildford (Gradd Sylfaen mewn Theatr Gerdd)

Jacob Young

 

Academi Urdang (BA Dawns Broffesiynol a Theatr Gerdd) Ysgoloriaeth

Celfyddydau Theatr Laine (BA Anrh Theatr Gerdd)

Coleg Bird (BA Anrh Theatr Gerdd) Ysgoloriaeth Dyfarniad Dawns a Drama

Kiera Ellis

 

Prifysgol Chichester (BA Anrh Cerddoriaeth a Theatr Gerdd)

Prifysgol Cumbria (BA Anrh Theatr Gerdd)

Billy Rees

 

Prifysgol Swydd Gaerloyw (BA Theatr Gerdd)

Coleg Blackpool and The Fylde (BA Theatr Gerdd)

Ben Thomas

 

Arts Ed (BA Anrh Theatr Gerdd)

Celfyddydau Theatr Laine  (BA Anrh Theatr Gerdd) Ysgoloriaeth

Academi Celfyddydau’r Theatr Mountview (BA Anrh Theatr Gerdd)

Cameron Webb

 

Prifysgol Chichester (BA Theatr Gerdd)

Academi Urdang (Theatr Gerdd)

Academi Emil Dale (Theatr Gerdd)

Celfyddydau Theatr Laine  (BA Anrh Theatr Gerdd)

Cody Evans

Prifysgol De Cymru (BA Anrh Theatr a Drama) 

Fraya Jones

Y Drindod Dewi Sant (BA Perfformio)

Ffion Davies

Academi Emil Dale (Gradd Sylfaen Theatr Gerdd)

Emily Jones

Arts Ed (Gradd Sylfaen Theatr Gerdd)

Celfyddydau Theatr Laine  (BA Anrh Theatr Gerdd)

Cerys Sprake

Prifysgol Chichester (BA Anrh Theatr Gerdd)

Ashley Williams

Prifysgol Chichester (BA Anrh Theatr Gerdd)

Eve Harris

Arts Ed (Gradd Sylfaen Actio)

Georgia Whitehorn

 

Prifysgol Dinas Birmingham (BA Anrh Perfformio Cymhwysol Cymuned ac Addysg)

Prifysgol De Cymru (BA Anrh Theatr a Drama)

Aisha Thomas

Y Drindod Dewi Sant (BA Perfformio)

Carl Francisco

Prifysgol Portsmouth (BA Anrh Drama a Pherfformio) 

Joe Murphy

(Blwyddyn 1)

 

Prifysgol Chichester (BA Anrh Actio ar gyfer Ffilm)

Prifysgol y Santes Fair Twickenham (BA Anrh Actio)

 

Eve Burridge

Royal Holloway, Prifysgol Llundain (Drama)

Laura Cooke

Prifysgol Llundain y Frenhines Fair (Drama)

Lewis Francis

Arts Ed (Gradd Sylfaen Actio)

Rhys Horton

Arts Ed (Actio)

Coleg Rose Bruford (Celfyddydau Theatr Ewrop)

Sefydliad y Celfyddydau Perfformio Lerpwl (Theatr Cymhwysol a Drama yn y Gymuned)

Charley South

Sefydliad y Celfyddydau Perfformio Lerpwl (Theatr Cymhwysol a Drama yn y Gymuned)

Sophie Mclean

RADA (Cynhyrchu yn y Theatr)
Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru (Cynhyrchu yn y Theatr)

Jake Kingston

Prifysgol Fetropolitan Caerdydd (Cynhyrchu yn y Theatr)

Jake Porter

Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru (Cynhyrchu yn y Theatr)

Chloe Williams

Academi Celfyddydau’r Theatr Mountview (Cynhyrchu yn y Theatr)

Aaron Harvey

Prifysgol Fetropolitan Caerdydd (Cynhyrchu yn y Theatr)