Skip to main content

Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn rocio unwaith eto

Mae dwy flynedd o gyfyngiadau Covid wedi cael effaith enfawr ar y diwydiant cerddoriaeth. Gyda pherfformiadau’n cael eu gwahardd neu eu cyfyngu’n drwm, bu’n gyfnod anodd i ddarpar gerddorion ifanc. Fe wnaeth myfyrwyr Perfformio Cerdd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe addasu orau ag y gallent, ond oherwydd ffrydiau byw drysau-caeedig a chynulleidfaoedd sy’n cadw pellter cymdeithasol nid yw’r awyrgylch wedi bod yr un fath.

Newidiodd hyn i gyd ar Ddydd San Ffolant pan aeth y dysgwyr i’r Bunkhouse yn Abertawe ar gyfer noson o gerddoriaeth.

A hwythau’n awyddus i weld yr hyn y mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ei greu yn Llwyn y Bryn daeth criw o fyfyrwyr, ffrindiau, teulu, cefnogwyr a cherddorion lleol i weld pum band o’r Coleg - Dormouse, Leccy Borse, FSHTNK, Konflix, ac Avalanche.

I rai dyma oedd y tro cyntaf yn ôl i sioe fyw a’r tro cyntaf i eraill weld perfformiad byw. Trodd nerfau yn chwerthin, trodd crynu yn ddawnsio, a throdd sgyrsiau tawel yn floeddio a chanu. Roedd pawb yn gwenu ac yn cwtsio ei gilydd y tu allan cyn ymuno â’r awyrgylch byrlymus a’r moshwyr y tu mewn.

Nid ydym yn gwybod beth yw tynged y byd, ond mae un peth yn sicr; bydd y myfyrwyr hyn yn cael effaith barhaol ar sin gerddoriaeth Abertawe. Wrth iddynt adael y Coleg yn y pen draw i ddilyn eu gyrfaoedd, byddan nhw’n dod â bywyd yn ôl i ddiwylliant sydd wedi dioddef yn enbyd yn ystod y cyfnod cythryblus hwn.

Dysgwch ragor am y cwrs hwn a gwneud cais heddiw!

Lluniau: Cyn-myfyriwr ffotograffiaeth Chris J Milligan