Skip to main content

Gwybodaeth bwysig ar gyfer ein cymdogion yng Ngorseinon ynghylch: Cynlluniau estyn ac ailwampio’r campws

Annwyl breswylydd, gobeithio erbyn hyn rydych wedi clywed am fwriad Coleg Gŵyr Abertawe i ddatblygu campws Gorseinon ymhellach trwy estyn un o’r adeiladau presennol, ynghyd ag adnewyddu nifer o ystafelloedd dosbarth. Rydym hefyd am wella’r system rheoli traffig a gwella’r mynediad i Belgrave Road, a thrwy wneud hyn, credwn y byddwn yn cyfrannu at leihau traffig ger y fynedfa a gwella diogelwch.

Rydym yn bwriadu cyflwyno cais cynllunio i’r Cyngor cyn bo hir, ac os yw’r cais yn llwyddiannus, byddwn yn gallu ymgymryd â’r gwaith hyn. Fodd bynnag, cyn gwneud hyn, rydym yn ymgynghori’n drylwyr â staff, myfyrwyr, rhanddeiliaid, yn ogystal â chi, ein preswylwyr lleol. 

Gellir dod o hyd i’r cynlluniau a’r lluniadau yma www.db3group.com/gorseinon/ croeso i chi gyflwyno unrhyw sylwadau i gorseinon@db3group.com

Fodd bynnag, byddwn hefyd yn cynnal noson gyflwyno ar nos Fercher Rhagfyr 7 am 6pm yn y Coleg (Campws Gorseinon) croeso i chi fynychu’r digwyddiad a chael sgwrs â rheolwyr, rheolwyr prosiectau a dylunwyr ac ati sy’n gweithio ar y cynlluniau hyn i gael rhagor o fanylion ac atebion i’ch cwestiynau.

Bydd te a choffi ar gael ar y noson.

Cofion cynnes

Mark Jones
Pennaeth