Skip to main content

Myfyrwyr yn mentro i faes gofal iechyd diolch i brosiect e-fentora

Disgwylir y bydd grŵp o fyfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe yn elwa ar brosiect e-fentora arloesol, a sefydlwyd gan Gronfa Mullany, yn benodol ar gyfer pobl ifanc sy’n bwriadu dilyn gyrfa ym maes gofal iechyd.

“Rydyn ni’n elusen addysgol sy’n gweithio i roi sylw i ddiffyg symudedd cymdeithasol mewn proffesiynau gofal iechyd,” dywedodd Mandy Westcott, Rheolwr Prosiect E-fentora Mullany. “Ein hamcan yw ysbrydoli a chefnogi pobl ifanc i gael gyrfa ym maes meddyginiaeth a phroffesiynau gofal iechyd cysylltiedig eraill.”

O ganlyniad, bydd 27 o fyfyrwyr o gampysau Tycoch a Gorseinon yn cymryd rhan mewn prosiect 10 wythnos fydd yn eu cysylltu â mentoriaid, sy’n weithwyr proffesiynol wrth eu gwaith neu fyfyrwyr meddygol, drwy wefan bwrpasol.

“Bydd y mentoriaid yn rhoi cyngor i fyfyrwyr ar ddewisiadau gyrfa a sut i wneud cais am gyrsiau gofal iechyd, ac ar yr un pryd byddan nhw’n rhannu rhai o’u profiadau eu hunain o weithio mewn amgylchedd gofal iechyd,” ychwanegodd y darlithydd Stewart McConnell. “Mae’r myfyrwyr eisoes wedi cwrdd â Mandy ac maen nhw bellach yn awyddus i gwrdd â’u mentoriaid a dechrau’r prosiect.”