Skip to main content
Myfyrwyr yn mynd i Ŵyl y Gelli

Myfyrwyr yn mynd i Ŵyl y Gelli

Mae dau fyfyriwr Safon Uwch Saesneg o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael eu dewis i fynychu cwrs ysgrifennu preswyl Prosiect Bannau yng Ngŵyl y Gelli 2018.

Mae Emma Rowley a Sophie Apps ymhlith dim ond 20 o bobl ifanc i ennill lle ar y cwrs nodedig, sy'n cynnig cyfle i fyfyrwyr Cymru ddatblygu eu medrau ysgrifennu creadigol ac archwilio gyrfaoedd mewn ysgrifennu a newyddiaduraeth trwy weithio gydag awduron, darlledwyr a newyddiadurwyr proffesiynol.

Yn ystod cyfnod preswyl pedwar diwrnod, bydd yr ysgrifenwyr ifanc - a gefnogir gan fentor - yn cymryd rhan mewn gweithdai a thrafodaethau, ysgrifennu blogiau ac adolygiadau ac yn trochi eu hunain ym mhopeth sydd gan Ŵyl y Gelli i'w gynnig.

"Er mwyn sicrhau lleoedd ar y rhaglen uchelgeisiol hon, cyflwynodd Emma a Sophie eu storïau byrion i banel o feirniaid ynghyd â llythyr o argymhelliad," meddai'r darlithydd Shona Sutherland. "Rydyn ni i gyd yn falch iawn drostyn nhw ac rwy'n siŵr y bydd hyn yn brofiad na fyddan nhw byth yn ei anghofio”.