Skip to main content
Students

Myfyrwyr yn perfformio trasiedi Roegaidd - yn Gymraeg

Fel rhan o'u hwythnosau olaf o ddosbarthiadau cyn gwyliau'r haf, cafodd myfyrwyr Drama Lefel UG o Goleg Gŵyr Abertawe gyfle i baratoi cynhyrchiad dwyieithog o ddrama Sophocles, Electra.

Wedi'i lleoli yn ninas Argos mae'n adrodd hanes Electra a sut y mae hi a'i frawd Orestes yn dial ar eu mam Clytemnestra a'u llystad Aegisthus am lofruddio eu tad. Roedd y cynhyrchiad arbennig hwn wedi defnyddio set sy'n debyg i'r rhaglen deledu Jeremy Kyle fel cefnlun ar gyfer datblygu'r stori.

Er mwyn datblygu’r cynhyrchiad hwn roedd y myfyrwyr drama wedi gweithio gyda'r actor profiadol Gareth Bale.  Mae Gareth yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ac mae ganddo brofiad o weithio ar gynyrchiadau Cymraeg ar gyfer S4C a'r theatr.  Mae newydd fod yn gweithio ar ddrama yn seiliedig ar fywyd Ray Gravell - Grav - a gafodd ei pherfformio yn Theatr y Torch cyn mynd ar daith trwy Gymru.

"Roedd hwn yn gyfle gwych i'n myfyrwyr weithio gydag actor cyfrwng Cymraeg profiadol a gweld sut y gall y Gymraeg gael ei defnyddio yng nghyd-destun y theatr, pan fydd yr ystyr yn cael ei bortreadu trwy'r actio, ac nid yn unig iaith y geiriau", dywedodd y Swyddog Dwyieithrwydd Anna Davies. "Roedd y cynhyrchiad hwn wedi gwneud argraff fawr ar ffrindiau, teulu ac aelodau'r cyhoedd, yn enwedig wrth gofio mai dim ond ychydig dros wythnos oedd gan y myfyrwyr i ddysgu eu llinellau, ymarfer a pherfformio."

Katherine Rees oedd yn chwarae rhan Electra.  Mae hi newydd gael llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd eleni yn ogystal â chael ei henwi'n 'Fyfyriwr y Flwyddyn - Cymraeg' y coleg.

Cefnogwyd y cynhyrchiad hwn gan y Gronfa Arloesi'r coleg.