Skip to main content
Llun Galw nhw allan o'r URDD

Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd

Eleni mae’r Coleg wedi cymryd hran yn Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd sydd yn ffocysu ar wrth-hiliaeth.  

Mae’r neges yn datgan nad oes lle i hiliaeth yn y byd, ac os ydym yn ei weld, rhaid Galw Nhw Allan.   

Eleni crëwyd y neges gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd gyda'r cerddor Eädyth a Swyddog Cynnwys Addysg S4C, Natalie Jones. Mae'n alwad gan ieuenctid Cymru i weithredu’n uniongyrchol i: 

  • Datgymalu camwahaniaethu systemig 

  • Herio rhagfarnau diarwybod 

  • Galw allan hiliaeth pan welwn ni hi bob amser. 

Mae’r holl fyfyrwyr rydym wedi cynnwys yn y fideo yn siarad amrywiaeth o ieithoedd gan gynnwys Cymraeg, Saesneg, Tsieinëeg Syml, Rwsieg, Ffarsi, Arabeg, Sinhaleg, Dari, Kurmanji, Sorani, Wcreineg, Tyrceg a Sbaeneg.   Mae hon yn neges bwerus ac un rydym ni fel coleg yn teimlo sy’n cynrychioli yr hyn rydym ni yn sefyll amdano.