Skip to main content
Myfyrwyr yn gwenu / Smiling students

Olympiadau Academaidd yn rhoi myfyrwyr ar brawf

Mae myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi perfformio’n arbennig o dda mewn cyfres o gystadlaethau yn ddiweddar a gynlluniwyd i brofi eu sgiliau a’u paratoi ar gyfer eu ceisiadau prifysgol.

Roedd y dysgwyr yn gallu cymryd rhan yng nghynllun Olympiad Sêr Cymreig diolch i gymorth Rhwydwaith Seren, menter Llywodraeth Cyumru sy’n helpu dysgwyr disgleiriaf ysgolion gwladol Cymru i gyflawni eu potensial academaidd llawn.

Mae’r cystadlaethau yn cynnig cyfle i’r myfyrwyr mwyaf galluog brofi eu dealltwriaeth a’u sgiliau datrys problemau mewn amrywiaeth o bynciau gan gynnwys ffiseg, mathemateg ac ieithyddiaeth.

Yn Olympiad Ffiseg Prydain (BHhO) cyflwynwyd gwobrau Efydd i Anna Petrusenko, Katherine Lake, Ryan Evans, William Throp, a Jacob Edwards. Yn y categori hwn,  derbyniwyd canmoliaeth hefyd gan Evan Richards, Owen Williams, Jacob Harris, Jooyoung Jung, a Seth Marshall.

Enillwyd rhagor o wobrau Efydd yng nghystadleuaeth Sêr Mathemateg Cymru gan Katie Lake, Anna Petrusenko a Jooyung Jung, gydag Eve Tzafos ac Ella Keyes yn ennill canmoliaeth.

Yn Olympiad Ieithyddiaeth y DU, derbyniwyd canmoliaeth gan Ella Joseph a Keira Bater.

“Cafodd ein myfyrwyr gyfle gwych i brofi eu gwybodaeth yn y meysydd pwnc hyn lle wynebon nhw ambell i gwestiwn heriol sy’n procio’r meddwl. Roedden nhw’n gallu cystadlu yn erbyn y myfyrwyr gorau a disgleiriaf o bob rhan o’r Deyrnas Unedig, ac felly rydyn ni’n fodlon iawn ar y canlyniadau,” meddai Dr. Emma Smith, Cydlynydd Rhydgrawnt, HE+ a Seren Abertawe yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

“Maen nhw wedi dangosyr holl sgiliau hynny sydd eu hangen ar gyfer cael eu derbyn i’r prifysgolion gorau yn y DU, lle mae’r Olympiadau hyn yn cael eu cydnabod fel nod rhagoriaeth.”