Skip to main content
Students in studio / Myfyrwyr yn y stiwdio

Tynnu sylw at sgiliau creadigol i fyfyrwyr

Cafodd myfyrwyr ar amrywiaeth o gyrsiau celfyddydau creadigol a gweledol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe gyfle gwych i gwrdd â chyflogwyr a darlithwyr prifysgol yn ystod arddangosfa gyntaf erioed Design 48, a gynhaliwyd ar gampysau Gorseinon a Llwyn y Bryn.

Datblygwyd y syniad y tu ôl i Design 48 gan y Coleg ar y cyd â Rachael Wheatley o Waters Creative.

Yn gyfres o sgyrsiau a sesiynau blasu ymarferol, nod Design48 yw ysbrydoli dysgwyr a hybu eu sgiliau cyflogadwyedd. Mae hefyd yn ceisio codi eu dyheadau a’u hymwybyddiaeth o’r ystod eang o lwybrau addysgol a gyrfa sydd ar gael iddynt yn y diwydiannau creadigol.

Yng Ngorseinon, cymerodd y myfyrwyr ran mewn gweithdai gan gynnwys ffotograffiaeth, cynhyrchu, actio, cyfryngau creadigol a thecstilau.

Yn Llwyn y Bryn, cymerodd dysgwyr ran mewn gweithdai gan gynnwys darlunio ffasiwn, gwneud a dylunio gemwaith, yn ogystal â chlywed sgyrsiau gyrfa ar reoli digwyddiadau, dylunio celfi, ffotograffiaeth a diwydiannau digidol.

“Rydyn ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig iawn i’n myfyrwyr creadigol gwrdd â chynrychiolwyr o sefydliadau addysg uwch, cyflogwyr ac ymarferwyr fel rhan o’u cyrsiau Coleg felly roedden ni wrth ein bodd yn cael cynifer o bobl wirioneddol ysbrydoledig yn ymuno â ni,” meddai Rheolwr Maes Dysgu Celfyddydau Gweledol, Kieran Keogh.

“Fel aelod balch o Fwrdd Cyflogwyr y Diwydiannau Creadigol, rydyn ni’n wirioneddol awyddus i feithrin talent, nodi cyfleoedd i bobl ifanc, darparu hyfforddiant a mentora, a dathlu cyflawniad,” ychwanegodd Jenny Hill, Rheolwr Maes Dysgu’r Celfyddydau Creadigol.

Diolch yn fawr i’r sefydliadau a’r unigolion a ddaeth i’r Coleg, am arwain gweithdai a sesiynau blasu, a darparu profiad mor gadarnhaol i’n dysgwyr:

Angela Gidden MBE
BBC
Dneg Montreal
Hypebound
Icreate
Niki Groom
Peter Price Media
Rhys Morgan
Stori Cymru
Arena Abertawe
Tinopolis
Prifysgol De Cymru (Atriwm)
Visit Digital
Waters Creative