Skip to main content

Ymunwch â ni yn Niwrnodau Agored Rhiwthwir Cymru

Oherwydd Covid-19, mae llawer o ddigwyddiadau a oedd wedi’u cynllunio a’u hamselenni, megis diwrnodau agored, bellach wedi’u canslo.

Rydym yn gwybod pa mor bwysig y mae diwrnodau agored yn gallu bod i chi o ran eich helpu i ddod i benderfyniad ynghylch eich camau nesaf, felly rydym yn gweithio gyda Llywodraeh Cymru i ddod â’n diwrnod agored i chi.

Ar ddydd Mercher 8 Gorffennaf am 4pm, byddwn ni’n cymryd rhan yn Niwrnod Agored Rhithwir De Orllewin a Chanolbarth Cymru, er mwyn rhoi blas i chi o Goleg Gŵyr Abertawe.

Byddwch yn cael cyfle i glywed cyflwyniad gan ein Dirprwy Benaeth Nick Brazil, a fydd yn esbonio i chi ble y gallwn ni fel Coleg fynd â chi, yn ogystal â chlywed sut y gallwch ddefnyddio eich Cymraeg yn y Coleg gyda’n Hyrwyddwr Dywyieithrwydd, Anna Davies.

Hefyd, bydd sgwrs fyw ar brentisiaethau, lle bydd Seren Jenkins, prentis o Goleg Gŵyr Abertawe, ei chyflogwr, Ruth Gates (Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe) a’i thiwtor, Einir-Wyn Hawkins yn rhannu eu profiad ac yn ateb cwestiynau mewn sesiwn Holi ac Ateb byw.
I ymuno â'r sesiwn Holi ac Ateb fyw cliciwch yma > https://bit.ly/2NZGtPE

Felly, p’un ai ydych chi wedi dod i benderfyniad, neu’n dal i fod ar y ffens ynglyn â beth rydych chi eisiau gwneud nesaf, bydd y diwrnod yn gyfle i chi gael yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch i wneud y penderfyniad cywir.

Ymunwch â Diwrnod Agored Rhithwir De Orllewin a Chanolbarth Cymru yma neu ffoniwch Cymru’n Gweithio 0800 028 4844.

Gallwch hefyd gael gafael ar Cymru’n Gweithio ar Facebook neu Twitter: @WorkingWales