Skip to main content
Grŵp yn sefyll ar y llwyfan

Ysbrydoli myfyrwyr i anelu am y prifysgolion gorau

Cafodd cannoedd o ddysgwyr ifanc eu gwahodd yn ddiweddar i lansiad Hyb Seren Abertawe ar gyfer 2022/23, lle roedden nhw’n gallu dysgu rhagor am y sgiliau sydd eu hangen i ymgeisio i brifysgolion gorau’r DU.

Dan arweiniad Coleg Gŵyr Abertawe a Phrifysgol Abertawe, cynhaliwyd y digwyddiad yn y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae y Brifysgol. Roedd tua 350 o fyfyrwyr o’r Coleg ac ysgolion chweched dosbarth lleol yn bresennol, ynghyd â nifer o rieni a gwarcheidwaid.

Ar ôl croeso rhagarweiniol gan Gydlynydd Seren Abertawe, Fiona Beresford a’r Pennaeth Mark Jones, roedd yr Athro Simon Bott, Arweinydd Addysg yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol, wedi ymuno â nhw i siarad am waith y Brifysgol gyda Seren a’r manteision niferus i bobl ifanc sy’n cymryd rhan.

Hefyd yn bresennol roedd Dr. Matthew Williams, Cymrawd Mynediad yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, a roddodd ddarlith ar sgiliau meddwl beirniadol.

“Mae bod yn rhan o Hyb Seren Abertawe yn rhoi’r hyder i fyfyrwyr archwilio eu pynciau y tu allan i’r cwricwlwm,” meddai Fiona. “Mae’r archwiliad uwch-gwricwlaidd hwn yn hanfodol i ddatblygu eu chwilfrydedd academaidd a’u hyblygrwydd deallusol.

“Mae’r digwyddiad lansio hwn yn enghraifft wych o’r bartneriaeth sy’n bodoli rhwng y Coleg, y Brifysgol, a’r saith ysgol yn Abertawe – cydweithrediad sy’n ceisio ehangu cyfranogiad pobl ifanc sy’n dymuno ymgeisio i’r sefydliadau addysg uwch gorau.”

Ar ôl yr anerchiadau, gwahoddwyd myfyrwyr i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr blasu dan arweiniad academyddion Prifysgol Abertawe. Roedd rhieni a gwarcheidwaid hefyd yn gallu cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda Fiona a Dr. Williams.

Mae Seren yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n helpu dysgwyr disgleiriaf Cymru i gyflawni eu potensial academaidd llawn yn y DU a thramor.

Ar gael i bob dysgwr â gallu academaidd ym Mlwyddyn 12 a Blwyddyn 13, mae Academi Seren yn cynnig sesiynau rhyngweithiol a phrofiadau astudio unigryw i helpu myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch gwneud cais i brifysgolion blaenllaw. Mae hyn yn cynnwys gweithdai cyngor ac arweiniad gan diwtoriaid derbyn Rhydychen a Chaergrawnt, sesiynau paratoadau derbyn i brifysgolion, mynediad i ddosbarthiadau meistr pwnc dan arweiniad academyddion prifysgol, a chyfleoedd ysgol haf yn Rhydychen ac Iâl.

Ch-Dde: Dr. Matthew Williams, Prof. Simon Bott, Skye Roberts, Mark Jones, Anna Petrusenko, Jonathan Rogers, Fiona Beresford