Skip to main content
Delwedd graffigol gyda’r pennawd Wythnos Prentisiaethau Cymru, gydag unigolyn yn gweithio mewn amgylchedd mecanyddol ac yn gwiso cyfarpar diogelu personol.

Noson agored a sesiynau gwybodaeth Wythnos Prentisiaethau Cymru

Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn ddathliad sy’n codi ymwybyddiaeth ac yn dangos pam mae prentisiaethau yn benderfyniad athrylithgar i unigolion, cyflogwyr a gweithlu’r dyfodol.

Eleni, mae WP Cymru yn rhedeg o ddydd Llun 5 i ddydd Sul 11 Chwefror, ac mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i egluro a dathlu prentisiaethau:

  • Ar ddydd Llun 5 Chwefror, bydd y Coleg yn cynnal ei seremoni Gwobrau Prentisiaethau flynyddol. Bydd yn dathlu prentisiaid, tiwtoriaid, a phartneriaid cyflenwi o bob maes pwnc!
  • Ar ddydd Mercher 7 Chwefror, bydd y Coleg yn cynnal Noson Agored Prentisiaethau i bobl o bob oedran i ddysgu rhagor am brentisiaethau, lle bydd ein harbenigwyr pwnc a chyflogwyr allanol yn bresennol.
  • Yn olaf, rhwng dydd Llun 5 a dydd Gwener 9 Chwefror, bydd Sesiynau Gwybodaeth Prentisiaethau yn cael eu cynnal ar Teams. Mae manylion i’w gweld isod!

Sesiynau Gwybodaeth Prentisiaethau

Dydd Llun 5 Chwefror

10.00am – 11.00am: Llwyddo mewn Lloriau: Llywio Prentisiaethau – Atebion i’ch Cwestiynau!
Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn ryngweithiol, llawn gwybodaeth sy’n egluro prentisiaethau gorchuddion llawr ac yn rhoi gwybodaeth a hyder i chi ar gyfer gyrfa addawol. Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i glywed atebion i’ch cwestiynau gan arbenigwyr yn y maes!

1.00pm – 1.30pm: Dylunio’ch dyfodol: Archwilio prentisiaethau mewn Ffasiwn a Thecstilau
Ymunwch â’r weminar hon i archwilio byd o bosibiliadau mewn Ffasiwn a Thecstilau, lle byddwn yn dadorchuddio ein cyfleoedd prentisiaeth cyffrous gan roi modd i chi gychwyn eich taith i fyd creadigol ffasiwn trwy ein cymwysterau a’n harweiniad.

2.00pm – 2.30pm: Buddsoddi mewn talent: Pŵer prentisiaethau Rheoli Cyfleusterau
Sesiwn sy’n rhoi sylw i brentisiaethau Rheoli Cyfleusterau. Bydd dysgwyr a chyflogwyr yn dysgu am fuddion y cymhwyster a sut mae’n fanteisiol iddyn nhw.

Dydd Mawrth 6 Chwefror

1.30pm – 2.00pm: Rhagoriaeth iaith Gymraeg: Grymuso staff trwy brentisiaeth ymarfer cyfieithu
Sesiwn i’ch cyflwyno i brentisiaeth gyfieithu Coleg Gŵyr Abertawe. Mae’r brentisiaeth yn gyfle i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn gyfieithydd cymwysedig. Mae’n rôl ddymunol sy’n rhoi modd i sefydliadau hyfforddi staff newydd neu bresennol i gyfieithu dogfennau, sydd fel arfer yn un o ofynion Safonau’r Iaith Gymraeg.

Dydd Mercher 7 Chwefror

10.00am – 10.30am: Eich llwybr i lwyddiant gyrfa: Prentisiaethau, wedi eu symleiddio
Mae prentisiaethau yn darparu ateb cost-effeithiol i strategaeth hyfforddi a recriwtio sefydliadau, gan roi modd i unigolion uwchsgilio a datblygu eu gyrfa. Bydd y sesiwn hon yn chwalu mythau cyffredin ynghylch prentisiaethau, gan gynnwys cyllid, cyfyngiadau oedran a dyddiadau dechrau.

10.30am – 11.30am: Tanio’r dyfodol: prentisiaethau Peirianneg Nwy – sesiwn holi ac ateb
Sesiwn galw heibio i’r rhai sy’n ystyried prentisiaeth i gychwyn gyrfa yn y sector peirianneg nwy. Mae ein llwybr tair blynedd yn cynnwys yr holl agweddau ar osod a chynnal a chadw gwres canolog.

Dydd Iau 8 Chwefror

11.00am – 11.30am: Dylunio’r dyfodol: Archwilio Prentisiaethau Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr

1.00pm – 1.30pm: Cysylltu bywydau, adeiladu dyfodol: Prentisiaeth Datblygiad Cymunedol Coleg Gŵyr Abertawe
Bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg o’n cymhwyster Datblygu Cymunedol Lefel 3, sy’n cynnig cyfle i ymarferwyr ddatblygu eu dealltwriaeth o’r cefndir a’r angen am ddatblygu cymunedol

2.00pm – 2.30pm: Mantoli’r cyfrifon: Canllaw i gyflwyniad busnes a chadw cyfrifon syml
Sesiwn gyfrifeg, a fydd yn gyflwyniad i fusnesau yn ogystal â chadw cyfrifon sylfaenol, o gofnodi dwbl i fantolen brawf sef sylfaen cyfrifeg.  

2.00pm – 2.30pm: Llywio’r Dirwedd Ddigidol: Dadorchuddio dau lwybr i hybu busnes trwy sgiliau digidol uwch
Dewch i ymuno â ni ar gyfer gweminar drawsnewidiol i archwilio rôl hollbwysig prentisiaethau defnyddiwr digidol a chymorth cymwysiadau digidol. Maen nhw’n mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau yng Nghymru, ac yn darparu llwybr wedi’i deilwra i wella’ch galluoedd digidol yn y swydd. Byddwch hefyd yn darganfod sut mae’r llwybrau yn cyd-fynd â Strategaeth Ddigidol Cymru 2021, gan rymuso sefydliadau i arloesi, tyfu a chreu gweithlu sy’n barod i ragori yn y tirlun digidol sy’n datblygu.

4.00pm – 4.30pm: Diogelu’ch ysgol at y dyfodol: Prentisiaethau Cynorthwywyr Addysgu wedi’u Hariannu
Nod ein prentisiaethau cynorthwywyr addysgu yw grymuso eich ysgol trwy staff ymroddedig a thalentog. Ymunwch â’r weminar i ddysgu rhagor am y cyfle hwn a ariennir yn llawn, sy’n gallu bod yn ffynhonnell o fuddsoddiad hirdymor i’ch ysgol a rhoi modd i chi droi unigolion ymrwymedig yn weithwyr proffesiynol medrus.

Dydd Gwener 9 Chwefror

2.00pm – 2.30pm: Datgelu eich potensial: Canllaw i’n llwybrau datblygu Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad 
Ydych chi’n gweithio mewn rôl sy’n darparu cyngor ac arweiniad i eraill? Bydd ein gweminar yn rhoi modd i chi ddysgu pethau allweddol ar gyfer gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, a dysgu rhagor am y llwybrau sydd ar gael.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y sesiynau hyn sy’n digwydd yn ystod Wythnos Prentisiaethau neu os hoffech wybod rhagor, cysylltwch â ni.

E-bost: hello@gcs.ac.uk

Ffôn: 01792 284400