Skip to main content

Paratoi ar gyfer Cwrs Archwilio Weldio Gweledol CSWIP 3.0

Rhan-amser
Tycoch
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys paratoi a hyfforddi ar gyfer cwrs Archwilio Weldio Gweledol CSWIP. Mae ar gyfer weldwyr, gweithredwyr, archwilwyr llinell, a fformyn sy’n cynnal archwiliad gweledol o gymalau wedi’u weldio. Mae hefyd yn addas ar gyfer staff rheoli ansawdd weldio staff ac unrhyw un sydd angen hyfforddiant sylfaenol mewn archwilio weldio ochr yn ochr â chymhwyster. Erbyn diwedd y cwrs dylech allu: • Adnabod diffygion weldio amrywiol • Deall y dechnoleg weldio berthnasol sy’n gysylltiedig ag archwilio gweledol • Deall yr angen am ddogfennaeth ym maes weldio • Bod yn ymwybodol o godau a safonau sy’n gysylltiedig â gofynion archwilio • Cynnal archwiliad o ddefnyddiau a nwyddau traul • Cynnal archwiliad gweledol o waith weldio, adrodd arno ac asesu ei gydymffurfiad â meini prawf derbyn penodol • Pasio arholiad Archwilydd Weldio Gweledol CSWIP.

Gwybodaeth allweddol

Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol i’r cwrs hwn, ond argymhellir bod gan ymgeiswyr o leiaf chwe mis o brofiad peirianneg cysylltiedig â weldio a dwy flynedd o brofiad diwydiannol.

Cwrs ymarferol gyda thechnoleg weldio. Addysgir y cwrs dros dri diwrnod.

Cwrs archwilio 3.1 gyda TWI

Mae cyfleoedd eraill yn cynwys ASME IX/ BSEN ISO 9606 Profion Weldio, gwaith a dilyniant ar amrywiaeth o gontractau weldio codedig a Phrofion Codau Weldio – BS 4872.