Skip to main content

Pilio Croen Lefel 4 - Tystysgrif Available in Welsh

Rhan-amser
Lefel 4
VTCT
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
15 wythnos
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284049 (Broadway)

Arolwg

Prif bwrpas y cymhwyster hwn yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant estheteg anfeddygol uwch mewn technegau pilio croen.  

Drwy gydol y cymhwyster hwn, byddwch yn datblygu’ch gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o anatomeg a ffisioleg berthnasol, iechyd a diogelwch, a datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth a sgiliau i ddadansoddi ac ymgynghori â chleientiaid wrth ddarparu triniaethau pilio croen. 

Rhaid i ddysgwyr gyflawni’r canlynol: 

  • Egwyddorion ac ymarfer therapïau esthetig anfeddygol 
  • Ymgynghoriad uwch ar gyfer therapïau esthetig anfeddygol 
  • Gofal croen uwch ar gyfer therapïau esthetig anfeddygol 
  • Darparu triniaethau nodwyddo croen cosmetig.

Manyleb lawn y cwrs ar wefan VTCT.    

Gwybodaeth allweddol

  • Ymarferwyr cymwysedig Lefel 3, 18 oed a hŷn 
  • Cyfweliad 
  • Bydd angen i ymgeiswyr nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt feddu ar gymhwyster ESOL Lefel 1. 

Arholiadau theori ac ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig. 

Bydd disgwyl i fyfyrwyr astudio gartref, gan gynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig ac ymarferol.  

Prif bwrpas y cymhwyster hwn yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant estheteg anfeddygol uwch mewn technegau pilio croen.  

Yn ogystal, gall dysgwyr ddewis datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ymhellach drwy gwblhau cymwysterau arbenigol canlynol ar lefel 4 yn un neu fwy o’r meysydd canlynol:  

Rhaid i ddysgwyr brynu gwisg fel rhan o’u cwrs.   

Byddwn yn cadarnhau costau yn ystod y cyfweliad.