Skip to main content

TGAU Saesneg Iaith

Rhan-amser
Lefel 2
WJEC
Tycoch, Online
30 weeks
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae manylebau TGAU CBAC ar gyfer iaith Saesneg ar waith i sicrhau eich bod yn gallu ysgrifennu’n effeithiol a darllen yn rhugl. Ar ôl cwblhau’r cwrs, dylech allu dangos rheolaeth ar Saesneg safonol, gan gynnwys defnyddio iaith uchelgeisiol, dadansoddi a gwerthuso testunau ac ysgrifennu brawddegau sy’n gywir yn ramadegol.

UNED 1: Llafaredd (20%)

Byddwch yn rhoi cyflwyniad unigol, wedi’i ymchwilio, yn seiliedig ar themâu gosod CBAC. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn trafodaeth grŵp ar ysgogiadau ysgrifenedig a/neu weledol a ddarperir gan CBAC i gychwyn y drafodaeth. Sylwch fod rhaid i ni recordio’r holl asesiadau llafar.

UNED 2: Darllen ac Ysgrifennu: Disgrifio, Naratif ac Esbonio (40%)

Byddwch yn sefyll papur arholiad dwy awr ym mis Mehefin. Bydd y papur arholiad yn profi eich sgiliau darllen ac ysgrifennu.

UNED 3:  Darllen ac Ysgrifennu: Dadlau, Dwyn Perswâd a Chyfarwyddiadau (40%)

Byddwch yn sefyll ail bapur arholiad dwy awr ym mis Mehefin. Bydd y papur arholiad yn profi eich sgiliau darllen ac ysgrifennu.

I fewngofnodi i Office 365 i gyrchu deunyddiau cwrs, bydd angen enw defnyddiwr a chyfrinair arnoch. Os ydych chi’n fyfyrir newydd, byddwch yn derbyn neges destun yn cynnwys eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar ôl ichi gofrestru. Os ydych chi’n gyn fyfyriwr ac wedi anghofio’ch manylion, cysylltwch â Desg Gymorth y Gwasanaethau Cyfrifiaduron: CSHelpdesk@gowercollegeswansea.ac.uk

Diweddarwyd Mai 2021

Gwybodaeth allweddol

Os nad yw Saesneg yn famiaith i chi, rhaid ichi fod wedi cwblhau tystysgrif ESOL Sgiliau ar gyfer Bywyd Lefel 2 (nid lefel mynediad) neu gymhwyster cyfwerth. Os nad yw Saesneg yn famiaith i chi, ac os nad oes gennych chi’r cymwysterau i ymgymryd â’r cwrs TGAU, ffoniwch safle Llwyn y Bryn ar 01792 284021 i drefnu cyfweliad ESOL.

Gallwch ddewis astudio wyneb yn wyneb bob nos Iau neu ar-lein bob brynhawn Mercher / nos Fawrth. Os ydych yn dewis dilyn y cwrs ar-lein, rhaid bod gennych fynediad i gyfrifiadur, gliniadur neu dabbled. Nid yw’n bosib dilyn y cwrs trwy ddefnyddio ffôn clyfar.

Rhaid i chi hefyd gael cysylltiad ryngrwyd sefydlog a mynediad i argraffydd. Os ydych yn dewis astudio’r cwrs ar-lein, bydd angen i ni gysylltu â chi cyn y sesiwn gyntaf er mwyn esbonio i chi sut y gallwch gael mynediad i’r dosbarth. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi tic yn y bocs sy’n gofyn i ni gysylltu â chi drwy e-bost a negeseuon testun, a darparwch fanylion cyswllt cywir.

Gallwch gofrestru ar-lein ar gyfer y cwrs hwn yn fuan. Os ydych chi’n gwneud unrhyw ymholiadau ynghylch a yw’r cwrs wedi dechrau, neu a yw’r cwrs yn llawn, ar ôl i’r cwrs gychwyn, bydd gofyn i chi fynd i brif dderbynfa Tycoch i gofrestru / ychwanegu eich enw i’r rhestr aros. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â judith.stevens@gcs.ac.uk