Skip to main content

CIH Tystysgrif Lefel 4 mewn Tai

Rhan-amser, HE
Lefel 4
CIH
Tycoch
One year
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae’r cwrs hwn yn addas i unigolion a hoffai gael rôl rheoli neu sydd wedi cael eu dyrchafu i swydd o’r fath yn ddiweddar.

Fel aelod o CIH cewch gydnabyddiaeth eich bod yn weithiwr proffesiynol cymwys ac ymroddedig ym maes tai, a’r cyfle i ddefnyddio’r llythrennau dynodol CIHM a’r logo aelodaeth CIH i ddangos eich ymrwymiad.

Diweddarwyd Medi 2020

Gwybodaeth allweddol

Cyflogaeth o fewn y sector a chymhwyster Tai Lefel 3 a/neu addysg hyd at lefel gradd. 

Bydd rhaid cael cyfweliad cyn dechrau’r cwrs.

Mae chwe uned orfodol (36 credyd):

  • Gwasanaethau rheoli tai
  • Polisi tai
  • Rheoli pobl
  • Angen a galw am dai a darpariaeth
  • Angen am dai, cyllid
  • Angen am dai, y gyfraith

Symud ymlaen i gwrs ‘ychwanegol’ sef blwyddyn olaf Gradd Sylfaen Lefel 5 mewn Astudiaethau Tai a Chymunedau Cynaliadwy.

Cydnabod Dysgu Blaenorol

Mae’n bosibl y bydd y myfyriwr yn gallu ennill cydnabyddiaeth ar gyfer dysgu blaenorol. Cysylltwch i gael cyngor os teimlwch y gallai hyn fod yn berthnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: https://www.glyndwr.ac.uk/cy/Sutiwneudcais/Bethsyndigwyddnesaf/RPEL-Student-Guide-August-2019-WELSH.pdf

Cost y cwrs yw £1,500 (os ydych yn gyflogedig gallech hawlio hyd at £625 trwy gyllid Sgiliau ar gyfer Diwydiant). Ariennir y prosiect Sgiliau ar gyfer Diwydiant gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.