Trosolwg o’r Cwrs
Hyd: Dwy flynedd
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i unrhyw un a hoffai gael gyrfa mewn peirianneg drydanol/electronig, gyda chyfrifoldeb am ddylunio, gosod, comisiynu a gweithredu gwasanaethau peirianneg.
Diweddarwyd Hydref 2021
Cliciwch yma i lenwi ein ffurflen ymholiad Addysg Uwch
Gofynion Mynediad
Fel rheol dylai myfyrwyr feddu ar HNC gyda 120 credyd ar Lefel 4. Rhaid i hyn fod o raglen gymeradwy. Cysylltwch â ni i gael cyfweliad.
Dull Addysgu’r Cwrs
Addysgir y cwrs hwn dros ddwy flynedd academaidd. Y modiwlau yw:
- Rheolwyr rhesymeg raglenadwy
- Rheolaeth, arloesi a chynaliadwyedd
- Pŵer trydanol
- Prosiect grŵp
- Theori egwyddorion trydanol
- Prosesu signalau digidol a chyfathrebu
Cyfleoedd Dilyniant
Mae’r cymhwyster yn agor cyfleoedd gyrfa mewn ymgynghori, contractio a gweithgynhyrchu yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Gall myfyrwyr hefyd symud ymlaen i’r BEng ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Gwybodaeth Ychwanegol
Achrediad Dysgu Blaenorol
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol. Mae rhagor o fanylion i’w gweld yn y Swyddfa Academaidd | PCDDS
Bydd myfyrwyr cyflogedig yn talu £1,800 y flwyddyn.
I gael gwybodaeth am gymorth ariannol, gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu a grantiau ffioedd, ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
*Sylwch fod y ffioedd dysgu a nodir ar gyfer blwyddyn academaidd 2021-22 a gallent gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Ewch i wefan y brifysgol i gael rhagor o wybodaeth.