Coleg yn apwyntio Cyfarwyddwr AD newydd
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi penodi Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol newydd sbon – wyneb cyfarwydd iawn – oherwydd mae Sarah King, a ymunodd â’r Coleg ym mis Medi, wedi gweithio yng Ngholeg Abertawe o’r blaen fel Ymgynghorydd Cysylltiadau â Chyflogeion AD.
Mae Sarah, sy’n dod o Abertawe, wedi treulio’r 11 mlynedd diwethaf yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr lle reoedd hi’n gweithio fel Is-bennaeth AD a Llesiant.