Skip to main content

Trefniadau ar gyfer casglu tystysgrifau 2019

Os ydych chi’n bwriadu casglu eich canlyniadau'r wythnos yma, cofiwch ddod â phrawf adnabod (ID) gyda chi ar y diwrnod!
Mae eich cerdyn myfyriwr yn ddelfrydol ond gallwn hefyd dderbyn pasbort neu drwydded yrru (sydd â llun).
Ni fyddwn yn gallu cyhoeddi eich canlyniadau heb prawf adnabod, fell mae’n hanfodol eich bod yn cofio hyn.

Tystysgrifau Galwedigaethol
Bydd dysgwyr yn cael eu hysbysu pan fydd eu tystysgrif ar gael i’w chasglu.

Trefniadau casglu tystysgrifau arholiadau

Bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn dosbarthu cardiau post yn fuan i roi gwybod i fyfyrywr bod eu tystysgrifau’n barod i’w casglu.

Peidiwch â cheisio casglu’ch tystysgrif cyn derbyn eich cerdyn post. 

Bydd tystysgrifau’n barod i’w casglu o ddydd Llun 18 Medi yn ystod yr amserau ac o’r campws a nodir ar eich cerdyn post.

Rhaid i fyfyrwyr gofio i ddod â'u cerdyn hysbysiad a cherdyn adnabod â ffotograff gyda nhw.