Skip to main content

Safon Uwch Dylunio Tecstilau (Ffasiwn/Dylunio Mewnol)

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Trosolwg

Yn y cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu cysyniadau sylfaenol dylunio tecstilau yng nghyd-destun ffasiwn a/neu ddylunio mewnol, gan gynnwys ymchwil artistiaid/dylunwyr proffesiynol a ffynonellau ymchwil hanfodol eraill i lywio’r daith ddylunio. Trwy brosiectau a gweithdai ymarferol, bydd myfyrwyr yn cael profiad ymarferol o ddatblygu technegau tecstilau fel brodwaith llaw a pheiriant, gwaith gleiniau, laser, adeiladu creadigol ac ati.

Amcanion y Cwrs:

  • Deall egwyddorion sylfaenol y broses ddylunio a’i chymhwysiad trwy astudiaethau arsylwi a samplau tecstilau
  • Datblygu sgiliau datrys problemau ymarferol a meddwl yn feirniadol
  • Datblygu a chreu darluniau ffasiwn/dylunio mewnol
  • Datblygu eich thema eich hun a chreu canlyniadau personol.

Canlyniadau’r Cwrs:

  • Gweithredu’r broses ddylunio a’i chymhwysiad yn llwyddiannus trwy astudiaethau arsylwi a samplau tecstilau
  • Cymhwyso dealltwriaeth gyd-destunol trwy ddulliau gweledol ac ysgrifenedig
  • Cynhyrchu darluniau Ffasiwn/Dylunio Mewnol, dyluniadau cysylltiedig, a chanlyniadau personol terfynol.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg
  • Mae gradd C mewn pwnc celf ar lefel TGAU yn hynod ddymunol ond nid yw’n hanfodol.

Asesu:

Mae’r cwrs yn cael ei asesu’n fewnol, a’i gymedroli’n allanol.

Meini Prawf Graddio:  

Blwyddyn 1 (100% gwaith cwrs heb unrhyw arholiadau)
UG Uned 1 – Ymchwiliad Creadigol Personol
Asesiad di-arholiad
40% o’r cymhwyster
Dyddiadur Dylunio a Chanlyniad Terfynol.

Blwyddyn 2 (100% gwaith cwrs heb unrhyw arholiadau)
Safon Uwch Uned 2 – Ymchwiliad Personol
Asesiad Di-arholiad
36% o’r cymhwyster
Dyddiadur Dylunio a Chanlyniad Terfynol.

Safon Uwch Uned 3 – Aseiniad a Osodir yn Allanol
Asesiad Di-arholiad
24% o’r cymhwyster
Rhan un: Cyfnod Astudio Paratoadol
Rhan dau: Cyfnod Ffocws Parhaus 15 awr (asesiad di-arholiad).

Gallech chi aros yn y Coleg a symud ymlaen i’r cyrsiau Gradd Sylfaen Celf a Dylunio. Mae Safon Uwch Dylunio Tecstilau yn agor nifer o ddrysau a gall fod yn hanfodol o ran creu llwybrau ar gyfer amrywiaeth eang o gyrsiau prifysgol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae’r diwydiant tecstilau yn cynnig cyfoeth o rgaolygon a chyfleoedd gyrfa. Gallai myfyriwr graddedig tecstilau ddilyn gyrfa mewn ffasiwn, dylunio patrymau arwyneb, dylunio mewnol, dylunio gwisgoedd ffilm/theatr, hyrwyddo/newyddiaduraeth ffasiwn, addysgu neu fod yn artist/dylunydd tecstilau arbenigol mewn gemwaith tecstilau, gwneud ffelt, printio ac ati.

Nod y cwrs yw meithrin creadigrwydd a chryfderau personol trwy astudiaethau annibynnol. Sylwch fod yna ffi £30 ar gyfer y cwrs hwn. 

Enghraifft o waith myfyriwr. Rhywun yn sefyll yn gwisgo dilledyn brown.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.