Skip to main content

AI ar gyfer Addysg

GCS Training
Llys Jiwbilî
Pedwar awr
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Bydd y sesiwn yn archwilio offer AI AM DDIM a all fod yn ddefnyddiol ym maes addysg. Byddwch yn cael profiad ymarferol o ddefnyddio’r offer i greu cynnwys, creu profiadau, syniadau a gweithgareddau newydd ar gyfer dysgwyr, ateb ymholiadau, ychwanegu cwestiynau at fideos YouTube, datrys cwestiynau mathemateg, creu cwestiynau o destunau, aralleirio gwaith a llawer mwy. Byddwn hefyd yn archwilio offer a fydd yn helpu dysgwyr i greu nodiadau o fideos, ffyrdd o’u paratoi ar gyfer arholiadau a llawer mwy.  Gyda chymaint o offer ar gael, anodd yw gwybod ble i ddechrau. Bydd y gweithdy hwn yn eich galluogi i ddefnyddio’r offer hyn mewn amgylchedd lle gallwch gydweithio ag eraill, gofyn cwestiynau a dysgu sut i fanteisio i’r eithaf ar AI!

Gwybodaeth allweddol

Y gallu i ddefnyddio cyfrifiadur ar lefel sylfaenol.

Darpariaeth wyneb yn wyneb ar gampws Llys Jiwbilî.

Gweithdai digidol eraill a ddarperir gan Goleg Gwyr Abertawe.