Skip to main content

Diogelwch Bwyd ym maes Arlwyo (Highfield) Lefel 2 - Dyfarniad

GCS Training
Lefel 2
Highfield
Llys Jiwbilî
Un diwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Bwriad y cymhwyster hwn yw astudio anghenion diogelwch bwyd a hylendid y sector arlwyo, gan fod yna angen cynyddol i wneud diogelwch bwyd yn berthnasol i amgylcheddau busnes penodol er mwyn cynyddu effeithiolrwydd cyffredinol. 

Bwriad cymhwyster Lefel 2 yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth mewn rôl arlwyo, neu gefnogi rôl yn y gweithle.

Byddant yn dysgu mai cyfrifoldeb pawb sy’n storio, paratoi, coginio a thrin bwyd yw diogelwch bwyd.

Gwybodaeth allweddol

Addysgir cymhwyster Lefel 2 mewn diwrnod, a bydd yn cynnwys arholiad dewis lluosog un awr.

Os oes anghenion dysgu ychwanegol gan ddysgwr, bydd angen o leiaf chwe wythnos o rybudd arnom i weithredu’r prosesau gofynnol. 

Os ydych wedi cadw lle o fewn y cyfnod chwe wythnos hwn ac mae angen cymorth ychwanegol arnoch, dylech ystyried newid y dyddiad neu roi gwybod i ni pan fyddwch yn cadw eich lle.