Skip to main content

Rheoli Diogelwch Bwyd ym maes (Highfield) Lefel 4 - Dyfarniad

GCS Training
Lefel 4
Highfield
Llys Jiwbilî
Pum diwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Bwriad y cymhwyster hwn yw astudio anghenion diogelwch bwyd a hylendid y sector arlwyo, gan fod yna angen cynyddol i wneud diogelwch bwyd yn berthnasol i amgylcheddau busnes penodol er mwyn cynyddu effeithiolrwydd cyffredinol. 

Bwriedir cymhwyster Lefel 4 ar gyfer y rhai y mae eu rôl yn gofyn iddynt fod â rhywfaint o gyfrifoldeb am ddiogelwch bwyd. Mae dysgwyr yn debygol o fod yn gyfrifol am reoli tîm gweithredol.

Gwybodaeth allweddol

Addysgir cymhwyster Lefel 4 ar draws pum diwrnod o hyfforddiant dros gyfnod o bum wythnos. Asesir y cymhwyster trwy arholiadau dewis lluosog ac ysgrifenedig. 

Mae’r cymhwyster yn ymdrin yn fanwl â phwnc hylendid bwyd er mwyn sicrhau bod gan ddysgwyr wybodaeth drylwyr am beryglon a rheolaethau. Mae’n canolbwyntio ar bwysigrwydd datblygu, gweithredu a monitro gweithdrefnau diogelwch bwyd.

 

Os oes anghenion dysgu ychwanegol gan ddysgwr, bydd angen o leiaf chwe wythnos o rybudd arnom i weithredu’r prosesau gofynnol. 

Os ydych wedi cadw lle o fewn y cyfnod chwe wythnos hwn ac mae angen cymorth ychwanegol arnoch, dylech ystyried newid y dyddiad neu roi gwybod i ni pan fyddwch yn cadw eich lle.