Skip to main content

Gwasanaeth Cwsmeriaid Lefel 2 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 2
C&G
Llys Jiwbilî
14 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae Gwasanaeth Cwsmeriaid yn brentisiaeth wedi’i hariannu’n llawn i’r rhai y mae eu rôl yn ymwneud â gwasanaeth cwsmeriaid. Gallai dysgwyr fod yn gweithio ym meysydd gwerthu, adwerthu, gweinyddu, canolfannau cyswllt, iechyd a gofal cymdeithasol, a nifer o ddiwydiannau eraill. 

Gellir defnyddio’r brentisiaeth i uwchsgilio staff newydd neu bresennol. Mae rolau addas yn cynnwys cynorthwywyr gwasanaeth cwsmeriaid, cynrychiolwyr gwasanaeth cwsmeriaid, derbynyddion, rheolwyr cysylltiadau cwsmeriaid, cydlynwur ac arweinwyr tîm.

Gwybodaeth allweddol

I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac wedi’i leoli yng Nghymru.

Gall y brentisiaeth ddechrau ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Mae’n cael ei haddysgu i grwpiau a/neu unigolion gan ddefnyddio dull dysgu cyfunol trwy Teams/Skype/Zoom fel y bo’n briodol. Fel arfer bydd y dysgwyr yn cael sesiynau a chyfarfodydd gyda’r tiwtor/aseswr bob 3 i 4 wythnos.

Unedau gorfodol

  • Darparu gwasanaeth cwsmeriaid
  • Deall cwsmeriaid
  • Egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid
  • Deall sefydliadau cyflogwyr
  • Rheoli perfformiad a datblygiad personol

Unedau dewisol

Bydd eich tiwtor/aseswr yn gweithio gyda chi i nodi pa unedau dewisol sy’n addas i’ch rôl a’ch cyfrifoldebau, ond rydym yn argymell y canlynol: 

  • Cyfathrebu â chwsmeriaid ar lafar
  • Cyfathrebu â chwsmeriaid yn ysgrifenedig
  • Delio â galwadau sy’n dod i mewn gan gwsmeriaid
  • Ffonio cwsmeriaid
  • Prosesu gwybodaeth am gwsmeriaid
  • Datrys problemau gwasanaeth cwsmeriaid
  • Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid
  • Datblygyu cysylltiadau cwsmeriaid
  • Hawliau a chyfrifoldebau gweithwyr

Gwasanaeth Cwsmeriaid Lefel 3 - Prentisiaeth

Fel rhan o’r brentisiaeth, bydd unedau gorfodol a dewisol yn cael eu hasesu fel e-bortffolio seiliedig ar dystiolaeth, a fydd yn cynnwys gweithgareddau seiliedig ar wybodaeth a chymhwysedd. Gall y rhain gynnwys astudiaethau achos seiliedig ar waith, datganiadau gan dystion, arsylwadau, datganiadau personol a holi ynghylch gwybodaeth.