Skip to main content

Rheoli Adnoddau Lefel 2 (Wamitab) - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 2
Wamitab
Llys Jiwbilî
18 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae Rheoli Adnoddau yn brentisiaeth wedi’i hariannu’n llawn a fydd yn rhoi modd i unigolion ymgymryd â’u rôl yn effeithiol yn y diwydiant rheoli adnoddau a gwastraff. Mae’n gyfle gwych i staff sy’n ystyried dechrau gyrfa yn y sector neu staff profiadol sydd am wella eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth. 

Mae Rheoli Adnoddau fel sector yn dod yn hanfodol ar gyfer sefydliadau, gan fod sefydliadau’n gweithredu’n foesegol ac yn cymryd eu cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol o ddifrif er mwyn bodloni amcanion Llywodraeth y DU i sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn sero carbon net erbyn 2050. Erbyn hyn, ystyrir y sector yn un arbenigol, yn enwedig yng Nghymru gan fod awdurdodau lleol yn rhoi mwy o bwyslais ar wahanu yn y ffynhonnell.

Bwriedir prentisiaeth Lefel 2 i’r rhai sy’n newydd i’r rôl neu’r rhai sydd â rhywfaint o brofiad o weithio mewn rôl berthnasol ac sy’n ystyried bod yn gwbl gymwysedig yn eu maes. Mae’n ddelfrydol i’r rhai y mae angen iddynt ddeall yr egwyddorion sylfaenol o reoli adnoddau cynaliadwy.

Gwybodaeth allweddol

Rhaid bod ymgeiswyr yn gweithio yn y sector rheoli adnoddau neu wastraff gyda chontract cyflogaeth sy’n para am o leiaf gyfnod y brentisiaeth.

Addysgir y brentisiaeth trwy gymysgedd o ddysgu yn y gweithle a’r ystafell ddosbarth, wyneb yn wyneb neu ar-lein, yn ogystal â sesiynau un-i-un gyda’ch tiwtor/aseswr.

Bydd eich tiwtor/aseswr yn gosod tasgau, rhoi cymorth a’ch arwain trwy’r rhaglen brentisiaeth.

Gellir addysgu’r brentisiaeth yn hyblyg i weddu i anghenion y dysgwr a’r cyflogwr. 
 

Rheoli Adnoddau Lefel 3 - Prentisiaeth

Rheoli Adnoddau Lefel 4 - Prentisiaeth

Bydd dysgwyr yn arddangos eu cymhwysedd, eu sgiliau a’u gwybodaeth alwedigaethol trwy gasglu tystiolaeth o’u gwaith. Caiff y dystiolaeth hon ei chyflwyno mewn e-bortffolio a gall gynnwys asesiad seiliedig ar waith megis arsylwadau, tystebau, astudiaethau achos, datganiadau personol a thystiolaeth seiliedig ar waith.

Bydd dysgwyr yn gweithio’n agos gyda’r tiwtor/aseswr a fydd yn sicrhau bod yr unedau a ddewisir yn berthnasol i’r rôl a blaenoriaethau’r  sefydliad.

Byddwn yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu i ddangos tystiolaeth o wybodaeth a dealltwriaeth, gan gynnwys:

  • Gweithlyfrau
  • Astudiaethau achos
  • Aseiniadau
  • Trafodaethau proffesiynol

Yn ogystal, bydd gofyn i’r dysgwyr gwblhau’r rhaglen Sgiliau Hanfodol, sy’n cynnwys tasg dan reolaeth a phrawf er mwyn cadarnhau, y bydd angen ei sefyll o dan amodau arholiad.