Skip to main content

Rheoli Adnoddau Lefel 4 (Wamitab) - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 4
Wamitab
Llys Jiwbilî
36 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae'r brentisiaeth hon nid yn unig yn gymhwyster Rheoli Adnoddau/Gwastraff ar lefel gradd, ond hefyd yn gymhwyster Rheoli ac Arwain.

Mae’r brentisiaeth wedi’i gynllunio i roi sgiliau i unigolion sy’n gweithio mewn rolau rheoli ar safleoedd gwastraff fel y gallant weithredu eu safleoedd yn effeithiol. Mae’n ddelfrydol ar gyfer staff profiadol neu newydd sy’n rheoli gweithrediadau gwastraff a chyfleusterau ac sy’n dymuno ennill cymhwyster i brofi eu cymhwysedd.

Mae'r sector Rheoli Adnoddau yn sector pwysig iawn bellach i sefydliadau oherwydd bod mwy o sefydliad yn gweithredu’n foesegol gan gymryd eu cyfrifoldebau cymdeithasol corfforaethol o ddifrif, er mwyn diwallu amcanion net sero Llywodraeth y DU ac i geisio sicrhau Teyrnas Unedig di-garbon erbyn 2050.

Mae’r cymhwyster Lefel 4 hwn yn berthnasol i amrywiaeth o rolau amgylcheddol, CSR, casglu, cludo, trin a rheoli gwastraff, ynghyd â chyllidebu, cynllunio ariannol a rheoli timau.

Mae hwn yn gymhwyster hyblyg y gellir ei deilwra i fodloni anghenion swyddi penodol yn y sector / sefydliadau penodol.

Gwybodaeth allweddol

Cyflwynir y brentisiaeth drwy gyfuniad o ddysgu yn y gweithle a sesiynau yn yr ystafell ddosbarth. Gallant eu darparu wyneb yn wyneb, ar-lein neu ar ffurf sesiynau un-i-un gyda’ch tiwtor.  Bydd yr aseswr yn gosod tasgau, cynnig cymorth a bydd yn cynnig arweiniad trwy gydol y prosiect.

Gellir cyflwyno’r brentisiaeth mewn modd hyblyg i weddu i anghenion y dysgwr a’r cyflogwr. 

Unedau gorfodol

  • Cynnal asesiad risg iechyd a diogelwch o'r gweithle
  • Rheoli a chynllunio maes gweithredol o fewn sefydliad
  • Cynllunio, dyrannu a monitro gwaith o fewn eich maes cyfrifoldeb eich hun 
  • Gweithio’n gynhyrchiol gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid
  • Cefnogi dysgu a datblygiad o fewn eich maes cyfrifoldeb
  • Bod yn gyfrifol am gama gweithredu i leihau risgiau i iechyd a diogelwch
  • Diogelu’r amgylchedd mewn perthynas â chyfleusterau a ddefnyddir i brosesu neu storio deunyddiau ailgylchadwy a deunyddiau eraill
  • Monitro a chynnal ansawdd prosesau trin mewn amgylchedd ynni a chyfleusterau, gan reoli cyfleusterau corfforol
  • Cydymffurfiaeth gweithdrefnol
  • Darparu arweiniad o fewn eich maes cyfrifoldeb

Unedau Dewisol

Bydd dysgwyr yn dewis unedau dewisol o amrywiaeth o grwpiau gwahanol, gan gynnwys:

  • Nodi a gweithredu gwelliannau i weithgarwch ailgylchu 
  • Rheoli gwelliannau i weithrediadau rheoli gwastraff
  • Rheoli cyllideb ar gyfer eich maes neu weithgarwch eich gwaith
  • Rheoli cyllid mewn amgylchedd ynni a chyfleustodau
  • Recriwtio unigolion i’r busnes
  • Dyfarnu contractau i gwblhau gweithgareddau ailgylchu

Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu drwy ystod o ddulliau asesu fel y gallwn gasglu’r dystiolaeth angenrheidiol, gan gynnwys:

  • Llyfrau Gwaith
  • Astudiaethau Achos
  • Aseiniadau
  • Trafodaethau Proffesiynol