Trosolwg o’r Cwrs
Ar y cwrs hwn byddwch yn datblygu eich sgiliau ymarferol ymhellach trwy baratoi a choginio bwyd clasurol a chyfoes ar gyfer y bwyty hyfforddi. Byddwch yn ymgymryd â sesiynau ymarferol i ddatblygu eich sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a gwasanaeth bwyd yn y Vanilla Pod, ein bwyty hyfforddi.
Byddwch hefyd yn astudio mathemateg, Saesneg, llythrennedd digidol a chyflogadwyedd trwy ein rhaglen sgiliau arlwyo.
Mae lleoliad gwaith yn rhan o’r cwrs.
Diweddarwyd Tachwedd 2019
Gofynion Mynediad
Diploma Lefel 1 mewn Coginio Proffesiynol ar radd Teilyngdod neu uwch neu gymhwyster cyfwerth mewn lletygarwch ac arlwyo. Mae ymrwymiad, brwdfrydedd a’r gallu i weithio gydag eraill yn hanfodol.
Dull Addysgu’r Cwrs
Asesir y cwrs trwy aseiniadau ysgrifenedig, profion atebion byr, prawf ar-lein, asesiadau ymarferol a phrofion synoptig ymarferol.
Cyfleoedd Dilyniant
Diploma Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol (cais a chyfweliad yn ofynnol).
Mae Diploma Lefel 2 yn cael ei werthfawrogi gan gyflogwyr ac mae cyfleoedd cyflogaeth mewn lletygarwch cyffredinol, paratoi bwyd a choginio.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd costau ychwanegol ar gyfer iwnifform, llyfrau ac ati.