Skip to main content

Addysg Uwch

Mae gennym enw cryf eisoes am addysg bellach ond a wyddoch chi fod dros gant o bobl bob blwyddyn yn astudio ar gyfer cymhwyster addysg uwch (AU) gyda ni? Rydym yn cynnig Graddau, Graddau Sylfaen, Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch (HNC), Diplomas Cenedlaethol Uwch (HND) a chymwysterau proffesiynol – gyda sefydliadau addysg uwch blaenllaw yng Nghymru yn dilysu llawer o’n cyrsiau.

Rydym wedi agor Canolfan Prifysgol bwrpasol ar Gampws Tycoch yn ddiweddar. Fe’i dyluniwyd i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau ar lefel uwch ac mae’n cynnwys chwe ystafell ddosbarth newydd, llyfrgell ac ardal ystafell gyffredin.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglyn ag astudio cwrs AU yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, ebostiwch he@gcs.ac.uk

Llenwch ein ffurflen ymholiadau AU Llenwch ein ffurflen gais cyrsiau AU rhan-amser

Cardiff University
Swansea University
University of Wales Trinity Saint David
University of South Wales
Cardiff Metropolitan University Logo
QAA Cymru logo

Sut i wneud cais

Os yw'r cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo yn amser llawn ac mae rhif UCAS ganddo, rhaid i chi fynd trwy wefan UCAS.

Os oes angen help arnoch i lenwi ffurflen gais UCAS, gallwch wylio'r fideo defnydiol hwn.

UCAS Logo

Pam astudio AU gyda ni?

  1. Canolfan Brifysgol Bwrpasol
  2. Dosbarthiadau llai o faint
  3. Digon o gymorth
  4. Dulliau addysgu hyblyg
  5. Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar swydd neu broffesiwn penodol
  1. Wedi’u dilysu gan brifysgolion blaenllaw
  2. Cyfle i ychwanegu i gael gradd anrhydedd
  3. Cyfleoedd lleoliadau gwaith
  4. Rhagolygon gyrfa gwell
  5. Cysylltiadau cryf â diwydiant

Addysg Uwch wedi'i hesbonio

Mae graddau sylfaen yn gymwysterau sy’n cyfuno astudiaethau academaidd ag elfen o leoliad gwaith.

Wedi’u dylunio ar y cyd â chyflogwyr, maen nhw’n gymwysterau sy’n rhoi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth perthnasol i bobl fel y gallant gyflawni canlyniadau academaidd a gwella perfformiad a chynhyrchedd yn y gweithle.

Mae graddau sylfaen yn canolbwyntio ar swydd neu broffesiwn penodol. Eu bwriad yw cynyddu sgiliau proffesiynol a thechnegol staff mewn proffesiwn neu bobl sy’n bwriadu mynd i mewn i’r proffesiwn hwnnw.

Maen nhw’n gyfwerth â dau draean o radd anrhydedd lawn a gall cyrsiau fod yn amser llawn neu’n rhan-amser.

Bydd gradd sylfaen amser llawn yn cymryd dwy flynedd i’w chwblhau a gall cyrsiau rhan-amser gymryd mwy o amser. Bydd opsiwn i fynd ymlaen i wneud gradd anrhydedd lawn ar y diwedd. Bydd hyn fel arfer yn cymryd blwyddyn ychwanegol.

Mae Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch (HNC) a Diplomas Cenedlaethol Uwch (HND) yn gyrsiau cysylltiedig â gwaith sydd fel arfer yn ceisio paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa benodol.

Yn annhebyg i nifer o gyrsiau gradd, maen nhw’n canolbwyntio ar alwedigaeth/swydd ac felly gallant arwain yn syth at yrfa.

Mae’r HNC yn un lefel yn is na’r HND ac yn gyffredinol mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf prifysgol. Mae’n cymryd dwy flynedd i gwblhau cwrs rhan-amser.

Mae’r HND yn un lefel yn uwch na’r HNC ac mae’n gyfwerth â dau draean o radd anrhydedd lawn. Mae’n cymryd dwy flynedd i’w chwblhau. Gallwch ychwanegu ato a’i droi yn radd.

Cysylltir cymwysterau proffesiynol â dewisiadau gyrfa penodol a gydnabyddir gan y cyrff proffesiynol perthnasol (megis CMI, CIM, CIPD).

Mae ardystiadau proffesiynol yn profi bod gan rywun yr wybodaeth, y profiad a’r sgiliau i wneud swydd benodol a bod yr unigolyn hwnnw wedi cyflawni lefel o gymhwysedd a gydnabyddir.

Mae ennill cymhwyster proffesiynol yn gallu cynnig manteision fel mynediad i’r yrfa o’ch dewis, dyrchafiad neu gynnydd mewn cyflog.

Cyllid ar gyfer cyrsiau AU

Os ydych yn ystyried gwneud cais am gwrs AU bydd rhaid i chi gael gwybodaeth am eich opsiynau cyllid.

Pendroni dros ba fenthyciadau a grantiau y gallwch fod yn gymwys i’w derbyn? Mae’r fideo hwn gan CMC yn darparu esboniad cyflym a hawdd.

P’un ai ydych yn astudio cwrs Addysg Uwch yn amser llawn neu’n rhan-amser, gallech chi fod yn gymwys i gael benthyciadau a/neu grantiau i helpu gyda’ch costau.

Rhagor o wybodaeth...

Os oes gennych anabledd neu anghenion dysgu ychwanegol, efallai y byddwch yn gallu cael cymorth ariannol ychwanegol.

Fel rhan o’r broses ymgeisio bydd rhaid i chi ddod i gyfarfod asesu anghenion a bydd canlyniad y cyfarfod yn cael ei anfon i’r Coleg ar eich rhan. Bydd yr asesiad yn cael ei gynnal yn eich canolfan asesu anghenion lleol e.e. Prifysgol Abertawe.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses, eich cysylltiadau yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yw Aiden Spiller (Cydlynydd Cymorth Dysgu) ar 01792 284237 / aiden.spiller@gcs.ac.uk neu Hilary Langston (Cymorth Dysgwyr h.y. cymorth dylecsia) ar 01792 284203 / hilary.langston@gcs.ac.uk

Gallech chi fod yn gymwys i gael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru a/neu fenthyciad cynhaliaeth i helpu gyda’ch cwrs rhan-amser.

Darganfyddwch a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol ychwanegol os oes gennych blant neu oedolyn sy’n dibynnu arnoch yn ariannol.

Gall ein myfyrwyr AU brynu tocyn bws y gellir ei ddefnyddio i gyrraedd a gadael y Coleg a gellir ei ddefnyddio hefyd gyda’r hwyr ac ar benwythnosau ar fysys First Cymru.

Mae’r tocyn bws yn ddilys o fis Medi tan ddiwedd mis Mehefin dim ond ar gyfer ardaloedd Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Chaerfyrddin ac mae’n costio £307*.

Cynllun rhandaliadau (gyda ffi weinyddu £15)

  • Rhandaliad 1 - £170
  • Rhandaliad 2 - £152 siec ôl-ddyddiedig ar gyfer 04/01/22

Gellir prynu tocynnau bws o’r adran Gwasanaethau Myfyrwyr ar ôl cofrestru.

*yn amodol ar gynyddu pob blwyddyn academaidd

Efallai y bydd y cynlluniwr taith ar-lein First Cymru yn ddefnyddiol i chi drefnu’ch taith i’r (ac o’r) Coleg.

Mae’r Coleg yn rhoi bwrsari ym mhob blwyddyn ar gyfer yr holl fyfyrwyr AU amser llawn sy’n astudio ar raglen wedi’i breinio o sefydliad AU. Ar gyfer yr holl gyrsiau sydd wedi’u breinio o Brifysgol mae’r bwrsari yn £1,000 y flwyddyn.

Rhagor o wybodaeth...

Os yw aros am eich cyllid myfyriwr yn achosi caledi i chi rhowch wybod i’ch tiwtor cwrs/arweinydd rhaglen cyn gynted ag y bo modd. Os ydych yn diwallu’r meini prawf gosod, gallech fod yn gymwys i gael y gronfa galedi i fyfyrwyr.

Rhagor o wybodaeth...

Wedi astudio Addysg Uwch o’r blaen?

Os ydych wedi derbyn cyllid myfyriwr yn y gorffennol mae’n bwysig eich bod yn gwneud gwaith ymchwil trylwyr cyn derbyn eich lle. Mae angen i chi wirio eich bod yn gallu gwneud cais am y benthyciad ffioedd dysgu llawn am gyfnod eich cwrs. Os nad oes gennych ddigon o flynyddoedd o gyllid i dalu am eich cwrs, bydd rhaid i chi dalu am y blynyddoedd ychwanegol eich hun cyn y gallwch gael unrhyw gyllid myfyriwr.

O.N. Gallwch wneud cais am fenthyciad cynhaliaeth yn ystod y flwyddyn y byddwch chi’n eich cyllido’ch hun.

Fel rheol dim ond ar gyfer eich cymhwyster addysg uwch neu’ch gradd gyntaf y cewch chi gyllid myfyriwr. Mae trefniadau ar waith ar gyfer cymwysterau ‘Ychwanegol’, ac mae hyn wedi’i egluro isod.

Fel rheol, mae nifer y blynyddoedd y gallwch gael Benthyciad Ffioedd Dysgu yn cael ei chyfrifo fel a ganlyn:

Hyd arferol y cwrs presennol + un flwyddyn – nifer y blynyddoedd o astudio blaenorol

Er enghraifft
Os ydych yn gwneud cais am gwrs 2 flynedd a chawsoch 1 flwyddyn astudio ar gwrs gwahanol yn flaenorol cewch gyllid am y ddwy flynedd lawn.

Oes gennych radd yn barod?
Os oes gennych radd yn barod, fel rheol ni allwch gael cyllid myfyriwr ar gyfer gradd arall. Mae eithriadau i’r rheol hon, er enghraifft, os hoffech astudio TAR, Gwaith Cymdeithasol, Meddygaeth a Deintyddiaeth.
Os oes gennych Radd Sylfaen neu HND, bydd fformiwla cyllid wahanol yn cael ei defnyddio i bennu faint o flynyddoedd o gymhwystra cyllid sydd gennych ar ôl i ychwanegu at eich cymhwyster i radd Anrhydedd.

Er enghraifft
Os ydych wedi cwblhau Gradd Sylfaen 2 flynedd ac rydych chi eisiau ychwanegu ati i wneud gradd BA lawn, byddai hyn yn 3 blynedd + un flwyddyn – 2 flynedd o astudio blaenorol, h.y. byddai gennych hyd at 2 flynedd o gyllid ar ôl.

Blwyddyn ychwanegol o gymorth ffioedd dysgu
Os nad oeddech yn gallu parhau i flwyddyn nesaf eich cwrs neu roedd rhaid gadael eich cwrs am resymau personol, mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael blwyddyn ychwanegol o gymorth ffioedd dysgu. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o hyn.
Mae rhesymau cyffredin dros wneud cais am flwyddyn ychwanegol yn cynnwys:

  • iechyd meddwl
  • salwch
  • profedigaeth
  • beichiogrwydd
  • cyfrifoldeb gofalu

Mae pob cais yn cael ei ystyried yn unigol. Ond, nid yw ceisiadau’n gallu cael eu seilio ar y canlynol:

  • caledi ariannol
  • ddim yn hoffi’ch cwrs
  • rhesymau y gallwch eu rheoli

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/
Ffôn: 0300 200 4050 Llun-Gwe 8am-6pm

Fel myfyriwr AU gallwch gael mynediad at amrywiaeth eang o gymorth

Y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gwybodaeth, cymorth a chyngor ar unrhyw beth o arweiniad gyrfaol i gymorth ariannol yw’r tîm AU canolog yng Nghanolfan y Brifysgol. Yn ogystal mae gan y Coleg dîm ymroddedig o Swyddogion Cymorth Myfyrwyr i’r myfyrwyr sydd angen cymorth ychwanegol y tu allan i’w hastudiaethau. Maen nhw’n cynnig cymorth un-i-un a gallant eich cyfeirio at at asiantaethau eraill os oes angen cymorth ychwanegol arnoch.

Ydych chi’n Blentyn sy’n Derbyn Gofal neu’n Blentyn sy’n Gadael Gofal a hoofai gofrestru ar gwrs Addysg Uwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe? Os felly, gallwch gysylltu â Swyddog Cymorth dynodedig y Coleg a fydd yn gallu eich cynorthwyo bob cam o’r ffordd, o gofrestru hyd at ymgartrefu yn y Coleg.

Yn ogystal, mae gan y Coleg wasanaeth cwnsela ac Ymgynghorwyr Iechyd sy’n darparu gwasanaeth proffesiynol i fyfyrwyr gan gynnig cyngor a chyfarwyddyd ar faterion iechyd penodol. Eu nod yw hyrwyddo iechyd a lles ar draws y Coleg. 

togetherall

Mae togetherall yn wasanaeth cymorth lles ac iechyd meddwl digidol sydd ar gael ar-lein 24/7. Mae’n hollol ddienw ac felly gallwch eich mynegi’ch hun yn rhydd ac yn agored. Mae’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau sy’n rhoi modd i chi weithio trwy’r hyn sy’n eich pryderu.

I wybod rhagor am gymuned gefnogol ar-lein togetherall ewch i wefan togetherall.

Cymorth anabledd a chymorth i ddysgwyr ag anghenion penodol

Rydym yn cynnig cyngor i fyfyrwyr â gwahaniaethau dysgu penodol gan gynnwys dyslecsia, dyspracsia ac ADHD er enghraifft, ar sut i gael gafael ar gymorth arbenigol priodol, addasiadau rhesymol ar gyfer arholiadau, sgrinio ac asesu ynghyd â chanllawiau ar y broses ymgeisio am gyllid Lwfans Myfyrwyr Anabl.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Hilary Langston - h.langston@gcs.ac.uk

Gallai cymorth ychwanegol gynnwys:

  • Cymorth un-i-un neu mewn grwpiau bach
  • Cymorth arbenigol i fyfyrwyr sydd â nam ar y clyw
  • Cymorth cyfathrebu i fyfyrwyr byddar neu sydd â nam ar y clyw
  • Offer arbenigol yn dilyn asesiad neu gais
  • Deunyddiau mewn print mawr, ar dâp sain a Braille
  • Amser ychwanegol ar gyfer arholiadau.

Datgelu cyflwr meddygol yn eich Cais - gan gynnwys anawsterau iechyd meddwl
Mae CGA yn annog unigolion i ddweud wrthym am unrhyw gyflyrau, heriau neu anhwylderau sydd ganddynt. Wrth gyflwyno cais UCAS neu gais i’r Coleg, byddwch yn cael cyfle i ddatgelu gwybodaeth o’r fath. Mae hyn yn golygu y gallwn sicrhau eich bod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnoch a gwneud addasiadau rhesymol sy’n diwallu eich anghenion.

Lwfans i fyfyrwyr Anabl (DSA)
Cynllun nad yw’n dibynnu ar brawf modd yw DSA a ariennir gan y Llywodraeth. Gellir defnyddio’r lwfans i’ch helpu i dalu am unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch chi i sicrhau nad ydych dan anfantais wrth astudio.

Gall myfyrwyr ag anableddau neu namau gan gynnwys anawsterau neu anawsterau iechyd meddwl fod yn gymwys. Gallwch wneud cais am y Lwfans cyn i’ch cwrs gychwyn ac argymhellir i chi wneud hyn cyn gynted â phosib gan fod y broses yn gallu cymryd cryn dipyn o amser. I wneud cais am DSA bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth o’ch cyflwr. Gellir cael rhagor o wybodaeth yma.

Pwy sy’n gymwys?
Gallwch wneud cais am Lwfans i Fyfyrwyr Anabl os oes gennych anabledd a restrir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 sy’n effeithio ar eich gallu i astudio, megis:

  • Anawsterau addysgu penodol megis dyslecsia neu ADHD
  • Cyflyrau iechyd meddwl megis gorbryder neu iselder
  • Anableddau corfforol e.e. cyflwr sy’n eich gorfodi i ddefnyddio baglau, cadair olwyn neu allweddell benodol
  • Anableddau synhwyraidd, e.e. namau ar olwg, clyw neu fyddardod
  • Cyflwr iechyd hirdymor e.e. canser, clefyd cronig y galon neu HIV

Rhaid i chi hefyd fodloni’r gofynion cymhwyso ariannol (er enghraifft, gofynion preswylio a chategorïau myfyrwyr cymwys) o wneud cais am Lwfans i fyfyrwyr Anabl.

Fel rhan o’r broses ymgeisio bydd rhaid i chi fynd i gyfarfod asesu anghenion a bydd y canlyniad yn cael ei anfon i’r Coleg ar eich rhan. Bydd yr asesiad yn cael ei gynnal yn eich canolfan asesu anghenion lleol e.e. Prifysgol Abertawe.

I gael canllaw syml ar wneud cais am Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) cliciwch yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses, eich cysylltiadau yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yw

Aiden Spiller (Cydlynydd Cymorth Dysgu)
aiden.spiller@gcs.ac.uk

Hilary Langston (Cymorth Dysgwyr h.y. cymorth dyslecsia)
hilary.langston@gcs.ac.uk

Yng Nghanolfan y Brifysgol mae llyfrgell groesawgar ag amrywiaeth eang o adnoddau ar gyfer yr holl fyfyrwyr sy’n dilyn rhaglen Lefel 4 ac uwch.
Mae cyfleusterau’n cynnwys cyfrifiaduron personol, gliniaduron i’w benthyca, meddalwedd arbenigol, cyfleusterau argraffu/sganio/copïo, llyfrau penodol i’r cwricwlwm, benthyciadau hunanwasanaeth a lleoedd astudio. 

Ysgol Fusnes Plas Sgeti
Mae llyfrgell Plas Sgeti yn cynnig lle astudio, cyfleusterau argraffu a gliniaduron i’w benthyca. Gallwch ddefnyddio llyfrau sy’n gysylltiedig â’r holl gyrsiau a astudir yn yr Ysgol Fusnes yn y llyfrgell. Mae gan fyfyrwyr yr opsiwn o ddefnyddio’r cyfleusterau a’r adnoddau yng Nghanolfan y Brifysgol.

Adnoddau
Mae ein holl lyfrau ac e-Lyfrau yn berthnasol ac yn gysylltiedig â rhestrau darllen y cyrsiau. Mae’r llyfrgell hefyd yn tanysgrifio i nifer o gronfeydd data ar-lein, fel cyfnodolion a phapurau newydd electronig, y gallwch chi eu cyrchu 24/7.

Cymorth
Yn y llyfrgell mae cynghorwr ymroddedig a phrofiadol sy’n gweithio’n agos gyda’r tîm cwricwlwm i sicrhau bod cymorth ac adnoddau ar gael drwy gydol eich cwrs. Gallwch drefnu amser gyda’r cynghorwr drwy Teams, lle gallwch gael cymorth wyneb yn wyneb neu ar-lein.
Mae cymorth yn cynnwys:

  • Dechrau’ch gwaith ymchwil
  • Dod o hyd i adnoddau
  • Cyfeirnodi a llên-ladrad
  • Arddulliau ysgrifennu academaidd
  • Sgiliau cyflwyno
  • Prawfddarllen eich gwaith

Dysgwch ragor am y gwasanaethau llyfrgell a sut i gael gafael ar lyfrau yma.

Cyswllt Llyfrgell Canolfan y Brifysgol
Melanie.cook@gcs.ac.uk

Wi-Fi  Mae Wi-Fi’r Coleg ar gael trwy Eduroam ar ein holl safleoedd

Porth myfyrwyr CGA – ar gael ar unrhyw gyfrifiadur coleg trwy Explorer a gellir ei gyrchu gartref

Outlook mae gan bob myfyriwr ei gyfeiriad e-bost ei hun sy’n gysytlltiedig â’i gyfrif coleg

Microsoft Office 365  gellir cyrchu holl raglenni Office 365 a bydd TEAMS yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o gyfathrebu ac mewn rhai achosion fel ffordd o gael gwersi o bell.

Amgylchedd Dysgu Rhithwir

Mae gan y Coleg ei Amgylchedd Dysgu Rhithwir ei hun, sef Moodle, a gellir ei ddefnyddio i

  • Gael gafael ar adnoddau a lanlwythir gan eich darlithwyr
  • Ianlwytho aseiniadau i’w marcio
  • Cwblhau cwisiau ac asesiadau
  • Sgwrsio â dysgwyr eraill a darlithwyr gan ddefnyddio’r fforymau.

Gall yr holl fyfyrwyr AU ddefnyddio gwasanaeth cyflogadwyedd y Coleg, Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol.

Bydd ein tîm o Hyfforddwyr Gyrfa yn gallu eich helpu i ysgrifennu CV, llenwi ffurflenni cais, paratoi ar gyfer cyfweliad a gwneud gwaith ymchwil, a chynnal cyfweliadau ffug gyda chyflogwyr. Mae ganddynt bolisi drws agored ac maen nhw’n cynnig gwasanaeth galw heibio. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn gallu cael Hyfforddwr Gyrfa ar gyfer cymorth un-i-un os bydd angen.

Mae myfyrwyr hefyd yn gallu cael gafael ar gymorth a chyngor ar-lein drwy’r gwasanaeth gwe-sgwrsio yn www.gyrfacymru.com

Sgiliau graddedigion ar gyfer cyflogaeth

Dylech ystyried amser yn y Coleg fel amser i baratoi ar gyfer byd gwaith, sydd, yn gynyddol, yn fyd sy’n rhoi gwerth ar hyblygrwydd a’r gallu i addasu i sefyllfaoedd sy’n newid.

Yn y cyd-destun hwn mae Sgiliau Trosglwyddadwy Personol (STP) a Chynllunio Datblygiad Proffesiynol (CDP) wedi bod yn amlwg iawn fel priodoleddau pwysig i raddedigion. 

Mae STP yn sgiliau a enillir yn ystod astudiaethau academiadd a allai fod yn annibynnol o’r ddisgyblaeth dan sylw ac, felly, yn drosglwyddadwy ac yn ddefnyddiadwy mewn cyd-destunau eraill, gan gynnwys byd gwaith.

CDP yw’r broses gynllunio rydych yn gallu myfyrio arni a dadansoddi cryfderau personol a nodi meysydd i’w datblygu yn y dyfodol. Nodwyd pedwar categori o’r sgiliau hyn: datrys problemau, rheoli/trefnu, gwaith tîm a chyfathrebu.

Mae pob rhaglen astudio’n cynnwys cyfleoedd i ennill a datblygu sgiliau personol a chynllunio datblygiad personol ar gyfer graddio.

Wedi’i redeg gan fyfyrwyr i fyfyrwyr, mae Undeb Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yma i’ch cynrychioli.

Rydym yn hyrwyddo llais y dysgwr ac felly mae’ch cyfraniad yn hollbwysig i sicrhau y cewch y profiad myfyriwr gorau. Gallech hyd yn oed ddod yn rhan o Grŵp Rheoli Undeb y Myfyrwyr a helpu i lunio dyfodol y Coleg.

Pan fyddwch yn cofrestru yn y Coleg byddwch yn dod yn aelod o’r Undeb a gallwch siarad â ni am unrhyw broblemau sydd gennych.


Mae TOTUM yn rhoi mynediad i ddisgowntiau a bargeinion myfyrwyr ar fwyd a ffasiwn, technoleg a theithio, a phopeth rhyngddynt.


Gallwch sicrhau bod eich arian yn mynd yn bellach gyda TOTUM – a’i ymestyn yr holl ffordd o Amazon i Zavvi!

Mae gennym amrywiaeth o gymdeithasau yn y Coleg gyda llawer o feysydd diddordeb gwahanol gan gynnwys cynaliadwyedd, Undeb Cristnogol a Chymraeg. Bydd Undeb y Myfyrwyr yn eich helpu i sefydlu’r gymdeithas neu’r grŵp sydd ei angen yn eich barn chi.


Mae aelodaeth myfyriwr Ganolfan Chwaraeon y Coleg yn costio dim ond £110 y flwyddyn a bydd yn rhoi hawl i chi gael y canlynol yn ystod y tymor:

  • Defnyddio cyfleusterau campfa
  • Hurio cwrt sboncen am bris rhatach
  • Hyfforddiant personol am bris rhatach
  • Dosbarthiadau ymarfer corff am bris rhatach.

Mae tîm CGA Egnïol y Coleg hefyd yn trefnu nifer o weithgareddau adeiladu tîm/awyr agored/chwaraeon ac ymweliadau â digwyddiadau chwaraeon ac atyniadau lleol.

Graddio

Yn dilyn gohiriad seremonïau graddio 2020 a 2021, roedden yn falch dros ben i allu cynnal seremoni graddio dal i fyny ochr wrth ochr gyda'n Seremoni Graddio 2022 yn Arena Abertawe ym mis Tachwedd.

Ewch i dudalen Graddio i weld fideos a lluniau o'r dydd.

Wedi gadael yr ysgol heb gymwysterau?
Eisiau newid gyrfa?

Mae dal yn bosib mynd i'r brifysgol er nad oes gennych chi'r cymwysterau traddodiadol. Cofrestrwch ar gyfer un o'r cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch ac rydych chi un cam yn agosach.

Mae'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch (AU) yn gymhwyster sy'n paratoi pobl heb gymwysterau traddodiadol i astudio cyrsiau prifysgol. Mae ar gyfer unigolion a hoffai astudio ym maes addysg uwch sydd wedi gadael yr ysgol heb gymwysterau neu sydd wedi mynd yn syth i fyd gwaith ond nawr sydd am newid gyrfa. Mae cyrsiau Mynediad yn denu amrywiaeth o fyfyrwyr a gall pobl o bob oedran eu hastudio. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill diploma, sy’n gyfwerth â chwrs Safon Uwch. Mae cyrsiau Mynediad yn gyffredinol yn cael eu teilwra fel llwybrau, ac maen nhw’n rhoi’r sgiliau angenrheidiol i’r myfyrwyr ac yn rhoi'r wybodaeth briodol sydd ei hangen ar gyfer gyrfa israddedig benodol. Gweler isod y cyrsiau Mynediad sydd ar gael. 

Cer am dro o amgylch ein Canolfan Prifysgol a ddefnyddir gan ein myfyrwyr addysg uwch yn unig. Mae’r Canolfan Prifysgol yn cynnwys sawl ystafell ddosbarth, llyfrgell ac ystafell gyffredin. Mae gwagle a chefnogaeth y ganolfan yn sicr o hwyluso eich astudiaethau.