Skip to main content

Cystadleuaeth Dathlu Creadigrwydd i fyfyrwyr Trin Gwallt Broadway.

Roedd myfyrwyr VRQ Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt wrthi yn cystadlu yr wythnos diwethaf yng Nghanolfan Gwallt, Harddwch a Holisteg Broadway.

Cafodd myfyrwyr yr ail flwyddyn awr i gynllunio a chynhyrchu steil wallt fasnachol, gan gyfuno llu o sgiliau technegol a ddysgwyd yn ystod eu cwrs.

Lluniwyd y gystadleuaeth er mwyn i’r myfyrwyr ddangos eu sgiliau a’u creadigrwydd ym maes trin gwallt menywod ac iddynt gael profiad mewn gweithgaredd cystadleuaeth.

Yn ogystal, gofynnwyd iddynt gynhyrchu fideo hir tair munud ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol y gellid ei ddefnyddio ar gyfer hyrwyddo yn y dyfodol.

Barnwyd y cystadleuwyr ar gynllunio a chyfuniad y steilio yn ogystal â’u technegau gorffennu, gan adlewyrchu’r chwiwiau cyfredol.

Fe wnaeth y grŵp cyfan berfformio’n eithriadol o dda a’r enillydd yn y pen draw oedd Skye Griffin (yn y llun).

Os hoffech chi astudio cwrs yng Nghanolfan Gwallt, Harddwch a Holisteg Broadway, gallwch wneud cais ar-lein.

Cynigir rhai cyrsiau yn benodol i’r rhai dan 19 oed, a chyrsiau eraill a fydd yn gweddu i fyfyrwyr sy’n well ganddynt raglen seiliedig ar waith.

Mae amrywiaeth eang o gyrsiau rhan-amser yn cynnwys tylino chwaraeon, chwistrellu lliw haul a thechnegau barbro.

https://www.gcs.ac.uk/cy/hairdressing-beauty-and-holistics#!pnl_all