Trin Gwallt, Harddwch a Holisteg
Mae’r diwydiant yn dibynnu ar bobl sy’n greadigol, sydd â sgiliau cyfathrebu cadarn ac sy’n barod i ddysgu. Gallai astudio gyda ni agor drysau i ddyfodol lle rydych chi’n gweithio mewn salon, yn rhedeg eich sba eich hun neu’n teithio i bedar ban byd ar longau mordeithio.
Mae’r cyrsiau hyn yn cael eu haddysgu naill ai yng Nghanolfan Broadway sef Canolfan Rhagoriaeth sefydledig, neu ar Gampws Hill House (mae’r ddau wedi’u lleoli yn Nhycoch).
O blith yr amrywiaeth hon o gyrsiau mae rhai sy’n cael eu cynnig yn benodol i’r rhai dan 19 oed, ac eraill i fyfyrwyr sy’n ffafrio rhaglen seiliedig ar waith.
Mae amrywiaeth eang o gyrsiau rhan-amser yn cynnwys tylino chwaraeon, chwistrellu lliw haul a thechnegau barbro.
Gwallt
Dewch i ddysgu'r technegau torri, steilio a lliwio diweddaraf un yn ogystal â thorri gwallt dynion. Mae hyd yn oed cyrsiau mewn steilio gwallt priodas. Mae dau salon modern gennym ni yn Broadway.
Harddwch
Os hoffech chi ddysgu am y triniaethau harddwch a gofal croen gorau, dewch i Broadway. Cynigiwn newid gwedd yr wyneb heb lawdriniaeth, Microdermabrasion a therapi ocsigen yn ogystal â'r triniaethau poblogaidd chwistrellu lliw haul St Tropez, triniaethau i'r blew amrant a'r aeliau, trin dwylo, trin traed a chwyro.
Holisteg
Byddwch yn dysgu am y technegau diweddaraf un mewn therapïau holistig a thriniaethau sba. Gan ddewis o wahanol fathau o dylino i arnofio sych, Reiki, therapi crisialau a thriniaeth ayrufedig, byddwch yn dysgu gan y gorau.
Chwilio am gwrs Trin Gwallt, Harddwch a Holisteg
Rhywbeth i Bob Achlysur
Fel canolfan hyfforddi, mae ein myfyrwyr yn cael profiad ymarferol gwych gyda chwsmeriaid go iawn, ond rydym ni wedi mynd â phethau un cam ymhellach i feithrin eu hyder mwy fyth. Mae ein tîm digwyddiadau arbennig wedi'i ffurfio o fyfyrwyr amser llawn a rhan-amser sydd wedi gwirfoddoli eu hamser i fynd allan i'r gymuned. Ysgolion, digwyddiadau chwaraeon, diwrnodau llawn hwyl - maen nhw ar gael!
Hoffi ni ar Facebook

Newyddion a Digwyddiadau Hairdressing, Beauty and Holistics
Eitemau Nodwedd
Lawrlwytho Llyfryn Broadway
Yma yng Nghanolfan Gwallt, Harddwch a Holisteg Broadway, credwn y dylech chi sbwylio’ch hunan heb sbwylio’ch cyfrif banc felly cynigiwn amrywiaeth o driniaethau harddwch, therapïau cyfannol a sba moethus am brisiau cystadleuol.
Cyfleusterau o'r radd flaenaf i fyfyrwyr
Mae myfyrwyr yng Nghanolfan Gwallt, Harddwch a Holisteg Broadway yn gweithio mewn salonau gwallt modern, ystafelloedd harddwch ag adnoddau llawn a sba gyda'r triniaethau diweddaraf un gan gynnwys tanc arnofio sych gyda lampau is-goch.