Skip to main content

Diweddariad Covid ar gyfer dechrau’r tymor (w/d 25 Ebrill)

Wrth inni agosáu at dymor pwysicaf y flwyddyn i lawer o fyfyrwyr, gydag arholiadau ac asesiadau hanfodol ar y gorwel, byddwn yn parhau i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru (cyhoeddwyd ddydd Gwener 15 Ebrill) a chanllawiau ein Tîm Rheoli Digwyddiadau lleol.

Felly, pan fyddwn yn dychwelyd ar ôl gwyliau’r Pasg, byddwn ni, fel Coleg, yn parhau i ddefnyddio’r mesurau diogelwch Covid cyfredol, sy’n cynnwys:

  • Dwylo - Parhau i olchi a diheintio dwylo yn rheolaidd
  • Wyneb - argymhellir ac anogir i chi wisgo gorchuddion wyneb mewn pob man cyhoeddus
  • Cadw pellter corfforol 
  • Awyru da

Rhaid i chi hefyd wneud prawf llif unffordd os oes gennych unrhyw symptomau Covid.

Os yw’ch prawf yn bositif, bydd gofyn i chi aros gartref a rhoi gwybod i’r Coleg cyn gynted ag sy’n bosib:

Staff sy’n profi’n bositif: Cysylltwch â swyddfa eich cyfadran a/neu Adnoddau Dynol
Myfyrwyr sy’n profi’n bositif: Cysylltwch â’n Gweinyddwr Covid (covid@gowercollegeswansea.ac.uk)

Diolch am eich cymorth ac amynedd parhaus ac am barhau i helpu ni gadw’r Coleg yn ddiogel i’n staff a’n myfyrwyr.