Skip to main content

Gwybodaeth bwysig am ein nosweithiau agored mis Mawrth 2022

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o agor ei ddrysau am gyfres o nosweithiau agored ar y campws ym mis Mawrth.

Os ydych yn ystyried dod, cofrestrwch eich diddordeb o flaen llaw ar ein tudalen we ddynodedig.

Cofiwch hefyd y byddwn ni’n gofyn i bawb sy’n dod i’n nosweithiau agored:

  • Wneud eich ffordd i brif fynedfa y campws pan gyrhaeddwch
  • Gwisgo gorchudd wyneb yn ystod eich ymweliad (oni bai eich bod wedi’ch heithrio’n feddygol)
  • Cadw pellter cymdeithasol oddi wrth eraill bob amser
  • Diheintio eich dwylo pan gyrhaeddwch ac mor aml ag y gallwch tra byddwch yn y Coleg
  • Cyfyngu nifer y bobl rydych yn dod â nhw gyda chi, os yw’n bosibl.

Y dyddiadau yw:

  • Nos Lun 7 Mawrth – Gorseinon
  • Nos Fercher 9 Mawrth – Llys Jiwbilî
  • Nos Lun 14 Mawrth – Tycoch 
  • Nos Lun 14 Mawrth – Ysgol Fusnes Plas Sgeti
  • Nos Fawrth 15 Mawrth – Llwyn y Bryn

Mae’r holl nosweithiau agored yn dechrau am 5.30pm ac yn gorffen am 7.30pm.

Os na allwch ddod i’n nosweithiau agored, peidiwch â phoeni. Byddwn ni’n agor ein hystafelloedd sgwrsio ar-lein ar y wefan hon ar 16 Mawrth ac felly gallwch ofyn cwestiynau bryd hynny.