Trosolwg o’r Cwrs
Ar y cwrs hwn byddwch yn dysgu popeth am offer llaw gwaith coed a’u defnydd. Byddwch hefyd yn dysgu defnyddio offer gwaith coed mewn amgylchedd diogel.
Addysgir y cwrs hwn mewn gweithdy gyda sesiynau gwybodaeth ategol. Bydd gofyn i chi gynhyrchu tystiolaeth o gyflawniad i fodloni’r holl feini prawf asesu, trwy asesiad parhaus.
Gellir addysgu elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ychwanegwyd Rhagfyr 2018
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol.
Dull Addysgu’r Cwrs
Mae modiwlau’n cynnwys:
- Defgnyddio amrywiaeth o offer lalw
- Rhagofalon y dylid eu cymryd wrth ddefnyddio’r offer
- Cynnal a chadw amrywiaeth o offer llaw
- Offer eraill a all fod yn ofynnol ar gyfer gwneud gwaith coed
- Cynnal gwiriadau i sicrhau bod offer yn ddiogel i’w defnyddio
- Defnyddio offer i sicrhau bod pren yn ei le yn iawn
- Defnyddio dyfeisiau marcio ar bren
- Cynnal gweithgareddau i ddefnyddio offer llaw
- Defnyddio offer gwarchod personol
- Dilyn rhagofalon diogelwch
- Cadw’r man gwaith yn lân ac yn daclus
- Glanhau a dychwelyd offer ar ôl eu defnyddio.
Cyfleoedd Dilyniant
Dilyniant i lwybr crefft cysylltiedig.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd gofyn i chi wisgo esgidiau gwarchod ar gyfer yr holl sesiynau gweithdy.
Jubilee Court
Cwrs ar gael yn Gymraeg:
Yes