Skip to main content

Dilyniannu Cerddoriaeth - cyflwyniad

Rhan-amser
Lefel 1
AGORED
Llwyn y Bryn
10 weeks
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Mae’r cwrs hwn yn addysgu dysgwyr sut i gynhyrchu dilyniant cerddoriaeth wedi’i drefnu.

Mae dilyniannydd cerddoriaeth yn un o’r darnau pwysicaf o offer sy’n cael ei ddefnyddio yn ein stiwdios cartref. Dyma lle rydym yn recordio, golygu a phrosesu llawer o’r drwm electronig, y bas, a’r rhannau synth a grëwyd ar gyfer ein cynyrchiadau. Mae llawer o wahanol fathau o’r dyfeisiau hyn ar gael, mae’r mwyafrif ohonyn nhw’n seiliedig ar feddalwedd.

Byddwch yn dysgu sut i weithredu cymwysiadau cyfrifiadurol ac yn deall swyddogaethau sylfaenol dilyniannydd meddalwedd. Disgwylir i chi gynhyrchu trefniant ac arddangos y defnydd o aml-dracio gan ddefnyddio technegau trefnu syml.

Gan ddefnyddio gweithfan sain ddigidol fodern bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu eu syniadau cerddorol eu hunain. Mae’r pynciau allweddol yn cynnwys:
•    Gosod y meddalwedd.
•    Cysylltiadau a llwybro.
•    Recordio a golygu MIDI.
•    Defnyddio ategion fel offerynnau ac effeithiau.
•    Defnyddio samplau.
•    Cwanteiddio.
•    Arferion da o ran rheoli ffeiliau a phrosiectau.

Bydd pwyslais ar ddefnydd creadigol o’r meddalwedd.

Gwybodaeth allweddol

Diddordeb mewn cerddoriaeth a recordio sain.

Bydd asesiadau’n seiliedig ar gwestiynu ac arddangosiadau ymarferol.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig y cymwysterau cerddoriaeth amser llawn canlynol: