Trosolwg o’r Cwrs
Mae Tylino Corff Swedaidd yn rhaglen ran-amser sy’n darparu hyfforddiant ac asesiad ym methodoleg tylino. Mae’n seiliedig ar y technegau Swedaidd gwreiddiol sydd wedi cael eu gwneud yn rheolaidd ers diwedd y 19eg ganrif.
Byddwch yn astudio:
-
Gofal cleientiaid a chyfathrebu â nhw
-
Monitro a chynnal arferion iechyd a diogelwch
-
Rhoi tylino corff (gan gynnwys anatomeg a ffisioleg)
Mae’r cwrs yn cynnwys amrywiaeth o asesiadau ymarferol ynghyd ag asesiadau ysgrifenedig a phrofion allanol. Bydd portffolio o dystiolaeth yn cael ei gynhyrchu.
Diweddarwyd Mehefin 2015
Gofynion Mynediad
Bydd y cwrs hwn yn addas i fyfyrwyr hŷn ag addysg gyffredinol dda. Rhaid bod gennych agwedd gadarnhaol at y therapi a’r gallu i weithio fel aelod o dîm proffesiynol. Mae ymddangosiad personol wedi’i gyflwyno’n dda yn hanfodol. Dylai myfyrwyr fod yn 18 oed a hŷn.
Dull Addysgu’r Cwrs
Byddwch yn dod i’r Coleg un noson yr wythnos rhwng 6pm a 9pm am 34 wythnos. Bydd disgwyl i chi wneud o leiaf dair awr yr wythnos o astudio annibynnol.
Cyfleoedd Dilyniant
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus gallwch symud ymlaen i gyrsiau therapi cyfannol eraill, cyrsiau Gradd Sylfaen Therapïau Uwch a Rheolaeth Sba neu gyrsiau therapi harddwch. Gall cyfleoedd cyflogaeth gynnwys sbas iechyd, salonau, llongau mordeithio, gweithio dramor ac ati.
Gwybodaeth Ychwanegol
Rhaid i fyfyrwyr ddod i sesiwn arweiniad gorfodol cyn cofrestru. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr brynu eu cit/iwnifform eu hunain (byddwn yn rhoi’r rhestrau cit yn ystod y sesiwn arweiniad).
Costau:
Iwnifform: Tiwnig a Thrwser – tua £46
Cit: tua £20.40
Portffolio: tua £10