Trosolwg o’r Cwrs
Bwriedir y cwrs hwn i ddysgwyr sydd am ennill cymhwyster mewn trin gwallt ac nad oes ganddynt unrhyw brofiad blaenorol.
Byddwch yn datblygu sgiliau technegol mewn torri, lliwio a goleuo, steilio gwallt a siampŵio a chyflyru. Ochr yn ochr â’r rhain byddwch yn ennill sgiliau mewn pynciau cysylltiedig fel iechyd a diogelwch, ymgynghori a gweithio yn y diwydiant gwallt.
Ychwanegwyd Mehefin 2020
Gofynion Mynediad
Nid oes angen profiad blaenorol o drin gwallt ond bydd angen lefelau da o lythrennedd ar ddysgwyr a bydd angen cymhwyster ESOL Lefel 1 o leiaf ar ddysgwyr ESOL.
Dull Addysgu’r Cwrs
Bydd y cwrs yn cynnwys datblygu sgiliau ymarferol ar bennau ymarfer ac asesiadau wedi’u harsylwi ar geleintiaid. Yn ogystal, mae gwaith theori, profion ysgrifenedig a gwaith aseiniad.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd rhaid i ddysgwyr brynu cit - cost i’w chadarnhau.
Disgwylir i ddysgwyr wisgo tiwnig neu wisgo mewn dillad du i gyd yn y salon.