Skip to main content

Myfyrwyr yn mynd i Ŵyl y Gelli

Mae dau fyfyriwr Safon Uwch Saesneg o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael eu dewis i fynychu cwrs ysgrifennu preswyl Prosiect Bannau yng Ngŵyl y Gelli 2018.

Mae Emma Rowley a Sophie Apps ymhlith dim ond 20 o bobl ifanc i ennill lle ar y cwrs nodedig, sy'n cynnig cyfle i fyfyrwyr Cymru ddatblygu eu medrau ysgrifennu creadigol ac archwilio gyrfaoedd mewn ysgrifennu a newyddiaduraeth trwy weithio gydag awduron, darlledwyr a newyddiadurwyr proffesiynol.

Georgia yn ysgrifennu adolygiad arobryn

Mae myfyriwr Safon Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe wedi dod yn gyntaf yn seremoni wobrwyo adolygu llyfrau Gwobr Dylan Thomas.

Mae Georgia Fearn yn astudio Llenyddiaeth Saesneg, Iaith Saesneg, Llywodraethiant a Gwleidyddiaeth a Chymdeithaseg ar gampws Gorseinon yn ogystal â dilyn rhaglen HE+ ac roedd rhaid iddi ddewis un o'r nofelau ar y rhestr fer i’w hadolygu ar gyfer Gwobr Dylan Thomas eleni, sef gwobr lenyddol o £30,000 i ysgrifenwyr dan 39 oed.