Skip to main content

Warysau a Storio Lefel 2 - Tystysgrif FfCCh

GCS Training
Lefel 2
Llys Jiwbilî
12 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Bydd y cymhwyster Lefel 2 yn eich paratoi i ddechrau neu symud ymlaen o fewn cyflogaeth yn y sector warysau a storio. Bydd yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddangos eu cymhwysedd a’u dealltwriaeth o fewn eu rôl yn y diwydiant. 

Mae’n gymhwyster seiliedig ar waith sy’n addas i’r rhai â phrofiad neu ddealltwriaeth sylfaenol o’r diwydiant logisteg.

Gwybodaeth allweddol

Addysgir y cymhwyster trwy ddysgu seiliedig ar waith, a fydd yn cynnwys sesiwn un-i-un bob 4-6 wythnos ar amser sy’n gyfleus i’r dysgwr a’r cyflogwr. 

Unedau gorfodol

  • Iechyd a diogelwch yn y gweithle
  • Datblygu cysylltiadau gwaith effeithiol

Unedau dewisol

  • Dewis nwyddau mewn amgylcheddau logisteg
  • Paratoi archebion ar gyfer dosbarthu mewn amgylcheddau logisteg
  • Cadw mannau gwaith yn lân
  • Symud a/neu drin nwyddau
  • Derbyn nwyddau
  • Cadw stoc ar y lefelau gofynnol
  • Storio nwyddau
  • Prosesu archebion i gwsmeriaid

Wrth i ddysgwyr symud trwy’r cymhwyster, byddan nhw’n creu e-bortffolio o’r dystiolaeth sy’n digwydd yn naturiol o’r gweithgareddau ymarferol a wnaed yn y gweithle i ddangos gwybodaeth a chymhwysedd.

Mae dulliau asesu yn cynnwys:

  • Cwestiynau ac atebion
  • Arsylwadau
  • Tystebau
  • Tystiolaeth seiliedig ar waith
  • Astudiaethau achos
  • Trafodaeth broffesiynol