Skip to main content

Marchnata Digidol Lefel 4 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 4
C&G
Llys Jiwbilî
24 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Bwriedir y prentisiaeth ar gyfer dysgwyr sydd yn gyflogedig mewn rôl marchnata addas, sy’n defnyddio ac yn cefnogi brandio ac hyrwyddo y cwmni ar-lein. Mae’r brentisiaeth yn fwyaf addas i sefydliadau neu adrannau TG sy’n rheoli eu gwaith marchnata eu hunain.

Mae prentisiaeth Marchnata Digidol Lefel 4 ar gyfer arweinwyr tîm, rheolwyr, cyfarwyddwyr a dadansoddwyr, sydd am ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth mewn marchnata digidol.

Gellir defnyddio’r prentisiaethau i uwchsgilio staff newydd neu bresennol. Mae rolau addas yn cynnwys rolau iau ac uwch yn y cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol, fel cynorthwywyr y cyfryngau cymdeithasol, ymgynghorwyr y cyfryngau cymdeithasol, dadansoddwyr y cyfryngau cymdeithasol, swyddogion ymgysylltu â’r gymuned, cynorthwywyr cyfrifon digidol, cynorthwyydd marchnata digidol, swyddog cyfathrebu digidol, dylunwyr gwe, rheolwyr marchnata symudol a rheolwyr marchnata digidol.

Gwybodaeth allweddol

To be eligible for aI fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac wedi’i leoli yng Nghymru.

Bydd y dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr penodedig, a fydd yn gweithio’n agos gyda nhw a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a’r unedau a ddewisir yn addas ar gyfer eu rôl unigol a blaenoriaethau’r sefydliad. Bydd y tiwtor/aseswr yn cwrdd â’r dysgwyr bob 4-6 wythnos i asesu cynnydd a gosod amcanion ar gyfer y cyfnod nesaf.

Bydd y dysgwyr yn cael gwaith prosiect seiliedig ar yr unedau maen nhw wedi’u dewis, a bydd disgwyl iddyn nhw gasglu tystiolaeth o’u rôl i ddangos y defnydd o’u sgiliau newydd. Mae’n bosibl y bydd disgwyl i’r dysgwr fynychu seminarau neu weithdai yn ogystal â dysgu seiliedig ar waith a fydd yn canolbwyntio ar yr elfen wybodaeth o’r cymhwyster, a chymorth i ddatblygu dealltwriaeth, sgiliau a phrofiad yn y maes hwn.

Unedau gorfodol

  • Deall yr amgylchedd busnes
  • Defnyddio technoleg gydweithredol
  • Egwyddorion marchnata a gwerthuso
  • Datblygu’ch proffesiynoldeb eich hun
  • Deall gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol mewn gwerthu a marchnata
  • Metrigau a dadansoddeg marchnata digidol 

Unedau dewisol

  • Datblygu brand
  • Marchnata ar e-bost 
  • Sylfeini gwe
  • Marchnata ar beiriannau chwilio
  • Marchnata cynnwys
  • Marchnata ar ddyfeisiau symudol
  • Egwyddorion hysbysebu a hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Cynhyrchu copi ar gyfer cyfathrebu ar y cyfryngau digidol

I gwblhau’r cymwysterau yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ymgymryd â thasgau seiliedig ar waith i fodloni meini prawf y cymhwyster, sy’n berthnasol i’w rôl unigol a’u hamgylchedd dysgu. Byddan nhw’n caffael yr wybodaeth, yr offer a’r technegau sy’n gysylltiedig â phob uned a byddan nhw wedyn yn eu rhoi ar waith yn eu hamgylchedd gwaith presennol.

Bydd y gwaith a roddwyd a’r dystiolaeth a gasglwyd yn cael eu hadolygu yn ystod y cyfarfodydd grŵp a’r cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda thiwtoriaid/aseswyr a’u defnyddio at ddibenion asesu. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Aseswr Clyfar, sef offeryn rheoli prentisiaethau ar-lein sy’n rhoi modd i’r darparwr, y dysgwr a’r cyflogwr olrhain cynnydd dysgwyr yn effeithiol.