Gwella Golwg gan ddefnyddio Triniaeth Microbigmentu
Rhan-amser
Lefel 4
VTCT
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
34 wythnos (1 noson)
Ffôn:
01792 284049 (Broadway)
E-bost: enquiries@gcs.ac.uk
Arolwg
Nod cymhwyster VTCT Lefel 4 yw datblygu’ch gwybodaeth, eich dealltwriaeth a’ch sgiliau ymarferol wrth ddefnyddio microbigmentu, sef math o datŵio cosmetig i greu effeithiau colur a gwella nodweddion yr wyneb.
Byddwch yn dysgu’r sgiliau sydd eu hangen i ddarparu ymgynghoriad trylwyr â’r cleient i benderfynu ar gwrs penodol o driniaeth, wedi’i deilwra i weddu i anghenion cleientiaid unigol.
- Rheoli iechyd a diogelwch yn y salon
- Rheoili ansawdd gofal cleientiaid yn y sector gwallt a harddwch
- Gwella golwg gan ddefnyddio triniaeth microbigmentu
21.07.22
Gwybodaeth allweddol
Rhaid eich bod wedi cwblhau cymhwyster cysylltiedig â harddwch ar Lefel 3 cyn dilyn y cymhwyster hwn.
Bydd y cwrs hwn yn cael ei addysgu am 3.5awr un noson yr wythnos dros 34 wythnos lle byddwch yn dysgu sgiliau ymarferol a'r wybodaeth sylfaenol gysylltiedig ar gyfer y cwrs hwn.
Cewch eich asesu mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys aseiniadau ac asesiadau ymarferol.
- Tystysgrif L3 mewn Micro-dermabrasion
- Tystysgrif L4 mewn Amledd Radio
- Tystysgrif L4 mewn Pilio Croen
- Tystysgrif L4 mewn Nodwyddo Croen
Neu, gallech chi chwilio am waith fel:
Therapydd harddwch uwch sy’n darparu gwasanaethau microbigmentu.