Ymunwch â ni yn ein nosweithiau agored ym mis Tachwedd


Diweddarwyd 14/10/2020

Eleni, mae ein nosweithiau agored ym mis Tachwedd yn mynd yn rhithwir! Archwiliwch yr amrywiaeth o gyrsiau a gynigiwn, sgwrsiwch yn fyw â’n staff a chael cipolwg go iawn ar fywyd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Beth allwch chi ei ddisgwyl o'r diwrnod?

  • Clywed anerchiad agoriadol gan y Pennaeth, Mark Jones
  • Gwrando ar gyflwyniadau byw gan ein staff a myfyrwyr ar draws y Coleg ar Zoom
  • Sgwrsio’n fyw â staff ar draws yr holl feysydd dysgu ar Zoom a'n hystafelloedd sgwrsio testun
  • Archwilio ein hopsiynau cwrs
  • Gwybod rhagor am gymorth myfyrwyr a dysgu.

Pa ddiwrnod agored ddylech chi ei fynychu?

Rhennir ein nosweithiau agored yn ôl campws. Mae'r cyflwyniadau a chynnwys wedi'u teilwra i'r cyrsiau a gynigir ar bob campws, a bydd y staff sydd ar gael ar gyfer ein sesiynau holi ac ateb Zoom ac ystafelloedd sgwrsio testun byw o'r ardaloedd hyn hefyd. Gwiriwch pa gyrsiau sy'n cael eu cynnig ar bob campws isod, ac cofrestrwch eich diddordeb heddiw i dderbyn mwy o wybodaeth.

Campws Dyddiad
Gorseinon Dydd Llun 9 Tachwedd
Jubilee Court Dydd Mercher 11 Tachwedd
Tycoch Dydd Llun 16 Tachwedd
Llwyn y Bryn Dydd Mawrth 17 Tachwedd

Amser: 5.30-7.30pm

Cofrestrwch heddiw!

Tags: