Skip to main content
Group of students having a chat in a library

Sut rydym yn cefnogi dysgwyr yn ystod y flwyddyn academaidd hon gan y Pennaeth, Mark Jones

Cefnogi dysgwyr i wireddu eu huchelgeisiau mewn amgylchedd ôl-bandemig 

Wrth i ni nesáu at flwyddyn academaidd newydd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym wrthi’n paratoi i groesawu yn ôl ein myfyrwyr sy’n dychwelyd a chyfarch myfyrwyr newydd fel ei gilydd. Rydym yn falch dros ben ein bod wedi cael ein dewis fel rhan o’u taith addysgol ac yn gwerthfawrogi’n llawn y gallai hyn fod yn gyfnod cyffrous a phryderus iddyn nhw a’u rhieni, eu gofalwyr a’u gwarcheidwaid.  

Wrth i ni gamu i’r byd ôl-bandemig, rydym yn parhau i weld effeithiau hirdymor y cyfyngiadau, y tarfu ar ddysgu, ac ynysu ar bobl ifanc. Mae covid-19 wedi dysgu i ni a nifer o sefydliadau academaidd ledled y wlad bod angen cymorth unigol parhaus ar ddysgwyr nawr fwy nag erioed o’r blaen.  

Ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn meddu ar y set sgiliau llawn sy’n iawn iddyn nhw ac yn cael cymorth ym mhob agwedd drwy gydol eu hamser yng Ngoleg Gŵyr Abertawe. Boed hynny yn delio ag ansicrwydd, cwestiynu pa brifysgol i wneud cais iddi, neu benderfynu mynd yn syth i’r byd gwaith. 

Cymorth un-i-un 

Wrth gofrestru yng Ngholeg Gŵyr Abertawe bydd pob myfyriwr yn cael tiwtor personol. Bydd yr aelodau o staff allweddol hyn yn rhoi cyngor ac arweiniad academaidd a bugeiliol iddynt yn ystod eu cyfnod gyda ni.  

Rydym hefyd wedi cyflwyno hyfforddwyr bugeiliol, hyfforddwyr cynnydd, a mentoriaid pontio ac ymgysylltu – ac yn budsoddi’n barhaus mewn lles – trwy weithgareddau corfforol a meddyliol i wella’r ymdrechion hyn. Mae tiwtora ychwanegol hefyd ar gael i’r rhai sydd ei angen, gan gynnwys rhaglenni paratoi i sicrhau bod gan ddysgwyr yr wybodaeth ddiweddaraf a’u bod ar y trywydd iawn. 

Mae tiwtoriaid personol a hyfforddwyr bugeiliol yn cadw mewn cysylltiad agos â myfyrwyr o’r sesiwn sefydlu ac ar bob cam ar hyd eu taith gyda ni. Maen nhw’n rhoi cymorth unigol i fyfyrwyr ac yn eu helpu i gyrraedd eu potensial llawn wrth astudio a gwneud y mwyaf allan o’u cwrs. 

Mae mentoriaid pontio ac ymgysylltu, ynghyd â hyfforddwyr cynnydd, yn helpu dysgwyr i oresgyn unrhyw rwystrau i ddilyniant ac yn eu cyfeirio at opsiynau priodol. Maen nhw’n helpu i gynllunio, datblygu a darparu rhaglen arloesol sy’n cymell y dysgwyr, denu eu diddordeb, a’u helpu i ganolbwyntio ar nodau dilyniant tymor byr i dymor hir. 

Lles wrth astudio 

Mae gennym dros 50 o aelodau staff sy’n cynnig cymorth un-i-un i fyfyrwyr mewn meysydd fel lles, cadw’n heini, bwyta’n dda, sicrhau bod tocynnau teithio yn gyfredol a sicrhau bod myfyrwyr yn gwybod am yr opsiynau cyllid sydd ar gael. 

Ochr yn ochr â hyn, mae gennym gynghorwyr iechyd sy’n gallu helpu gyda materion meddygol, ynghyd â nifer gynyddol o gwnselwyr iechyd meddwl. Mae gennym hefyd dîm hyfforddedig o swyddogion cymorth myfyrwyr, swyddogion diogelu a chymorth iechyd meddwl ar-lein 24/7 drwy blatfform TogetherAll.  

Rhaglenni paratoi at y brifysgol 

“Dwi’n credu mai’r hyn sy’n gwneud i Goleg Gŵyr Abertawe sefyll allan yw nifer y sianeli cymorth sydd ar gael, yn enwedig yn fy nghais i Brifysgol Caergrawnt i astudio meddygaeth, sydd wir wedi fy helpu i sicrhau lle yno.” Ahmad Al-Sarireh, myfyriwr Safon Uwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. 

Mae’r Coleg hefyd wedi ehangu ei raglenni paratoi at y brifysgol i ddelio â heriau’r pandemig wrth wneud cais i addysg uwch, o newidiadau yn ymwneud ag arholiadau mynediad i gyfweliadau cyntaf. Mae hyn hefyd yn cynnwys arweiniad ar ddewis prifysgol, ceisiadau UCAS, opsiynau cyllid a datganiadau personol. 

Mae ein rhaglen Anrhydedd CGA benodedig yn helpu i gefnogi myfyrwyr gyda’u ceisiadau ar gyfer prifysgolion blaenllaw ledled y DU. Mae Anrhydedd CGA yn rhaglen gymorth academaidd i fyfyrwyr sydd am wneud cais i’r prifysgolion gorau yn y DU a thu hwnt. Mae’n annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol, yn annibynnol, yn ddadansoddol ac yn hyblyg am eu dyfodol academaidd. 

Wedi’r pandemig, mae’n parhau i fod yn un o’r blaenoriaethau pennaf, o ystyried anghenion cynyddol y myfyrwyr wrth iddynt ddelio â newidiadau a pharatoi ar gyfer y camau pwysig nesaf hyn yn eu bywydau. Mae gennym staff wrth law bob amser i helpu i gynllunio’r dewisiadau pwysig nesaf ar gyfer addysg uwch neu’r gweithle.  

Prentisiaethau 

Ni yw un o’r darparwyr prentisiaethau mwyaf yng Nghymru, gan gynnig amrywiaeth eang o raglenni hyfforddi sy’n cefnogi cwmnïau preifat bach, sefydliadau rhyngwladol mawr, a’r sector cyhoeddus. Gallai hwn fod y cam nesaf perffaith i’n myfyrwyr os nad yw symud ymlaen i addysg uwch yn ddewis addas iddyn nhw. 

Cymorth cyflogaeth 

Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn rhaglen gymorth gyrfaoedd sy’n cynorthwyo’r rhai sy’n chwilio am waith a’r rhai sydd eisoes mewn cyflogaeth. Mae’r rhaglen yn darparu cyflogaeth, addysg, hyfforddiant a chyngor gyrfaol wedi’u teilwra i anghenion unigol gyda’r nod o uwchsgilio unigolion, darparu cyfleoedd gwaith lleol ac adeiladu llwybrau gyrfa hirdymor. 

Defnyddio’r iaith Gymraeg 

Nod Coleg Gŵyr Abertawe yw bod yn goleg dwyieithog, gyda’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig yn ganolog i’w ethos, gan ddefnyddio dull Cymraeg yn gyntaf bob amser. Rydym yn hyrwyddo Cymraeg a dysgu dwyieithog ac yn annog ein myfyrwyr newydd a phresennol i ddefnyddio eu Cymraeg.  

Dysgu sut y gallwch ddefnyddio’ch Cymraeg yn ystod eich amser gyda ni. 

Cymorth ychwanegol 

“Rydyn ni bob amser wedi credu bod y berthynas rhwng myfyrwyr, y Coleg a rhieni neu warcheidwaid yn hollol hanfodol i sicrhau bod ein dysgwyr yn cael y llwyddiant rydyn ni i gyd eisiau iddyn nhw ei gael,” meddai Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe.  

Rydym yn gweithio tuag at greu cymuned gefnogol ar y cyd yma yn y Coleg. Felly, rydym yn gofyn i fyfyrwyr roi caniatâd i ni gysylltu â’u cartrefi o’r sesiwyn sefydlu ymlaen. Unwaith y byddwn wedi cael caniatâd i wneud hynny, gallwn gyfleu cynnydd astudiaethau yn effeithlon neu drafod unrhyw bryderon.  

Mae gennym hefyd Siarter y Dysgwyr sy’n seiliedig ar egwyddorion parod, parchus, a diogel a gofynnwn i bob dysgwr gytuno i’r siarter gan ei fod yn darparu sylfaen ar gyfer amgylchedd dysgu cadarnhaol sy’n rhoi modd i ddysgwyr ffynnu a bod yn unigolion. Mae Siarter y Dysgwyr yn nodi’n glir yr hyn y disgwylir i bob myfyriwr yn y Coleg ei ddilyn a’i barchu, ac yn gyfnewid am hynny gael addysg o’r ansawdd uchaf. 

Mae’n bwysig bod ein dysgwyr yn deall yr hyn rydym yn ei ddisgwyl ganddynt ac yn gweithio gyda ni i ddod yn bobl lwyddiannus, annibynnol, gyfrifol. Rydym yn cydnabod bod gennych chi, fel rhieni, gofalwyr neu warcheidwaid hefyd rôl hanfodol i’w chwarae ac yn gobeithio mai heddiw yw man cychwyn y triawd hwn, lle rydyn ni fel y Coleg, chi a’n dysgwyr, i gyd yn gweithio gyda’n gilydd ar eu taith i sicrhau llwyddiant.  

Yn gyfnewid am hyn, bydd y Coleg yn anelu at ddarparu addysg, profiadau, hyfforddiant, lles, cefnogaeth a chyfleoedd o’r ansawdd uchaf. Byddwn yn parhau i gynnig yr un lefel o gymorth pe bai unrhyw newidiadau i ganllawiau covid yn y dyfodol, drwy sicrhau y gallwn ddarparu cymorth ac addysgu ar-lein. 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r Coleg wedi mabwysiadu dull gweithredu rhagweithiol iawn o ran rheoli covid ac, wrth wneud hynny, mae wedi cynyddu yr addysgu wyneb yn wyneb i’r holl fyfyrwyr sydd, yn ein barn ni, wedi cyfrannu at y canlyniadau ardderchog y mae myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe wedi’u cyflawni eto yr haf hwn. 

Wrth i ni symud i flwyddyn academaidd newydd byddwn yn cynnal y dull rhagweithiol hwn nid yn unig trwy barhau i ofyn i staff a myfyrwyr adrodd am bob achos positif, fel y gallwn roi gwybod i eraill, ond hefyd trwy ei gwneud yn ofynnol i’r rhai sydd wedi cael prawf positif i weithio gartref nes eu bod wedi cymryd profion llif unffordd neu’n teimlo’n well. 

Darganfod mwy am fywyd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.