P’un ai ydych yn ystyried rhoi hwb i’ch cyflogadwyedd, newid cyfeiriad eich gyrfa, diweddaru’ch sgiliau neu ddysgu rhywbeth newydd, yng Ngholeg Gŵyr Abertawe bydd gennym gwrs rhan-amser i chi.
Rydym yn sylweddoli bod gan oedolion sy’n ddysgwyr lawer o alwadau ar eu hamser ac, am y rheswm hwn, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyblyg a byr.
Cyrsiau rhan-amser i ddod
Os mai un o’ch uchelgeisiau chi yn 2019 yw rhoi cynnig ar rywbeth newydd, edrychwch ar y cyrsiau rhan-amser sydd gennym yn dechrau’n fuan.
Gweld yr holl gyrsiau sy’n dechrau yn y 90 diwrnod nesafTudalennau
anna cymraeg
Cymorth i Fyfyrwyr
Mae timau cymorth gennym i roi cyngor i chi ar yrfaoedd, cyrsiau, materion personol neu faterion ariannol. Rhowch wybod i ni adeg cofrestru os oes gennych unrhyw anghenion dysgu arbenigol fel y gallwn roi’r cymorth cywir i chi. Gallwn wneud cais am gyllid hyd yn oed os oes angen offer neu gymorth arbenigol arnoch. Cofiwch ymweld â’n llyfrgelloedd hefyd ar gyfer popeth sydd ei angen arnoch i’ch helpu gyda’ch astudiaethau.
ESOL
Os nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf i chi, mae gennym gyrsiau achrededig AM DDIM ar wahanol lefelau sy’n gallu helpu i wella’ch sgiliau siarad, ysgrifennu a gwrando Saesneg.
Gwella’ch Sgiliau Sylfaenol
Ydych chi’n cael trafferth yn helpu’ch plant gyda’u gwaith cartref? Ydy eich diffyg sgiliau cyfrifiadurol yn eich dal yn ôl? Oes angen i chi wella’ch sgiliau sylfaenol er mwyn symud ymlaen yn y gweithle? Os felly, mae gennym yr ateb i chi.
Cofrestrwch ar ein cyrsiau RHAD AC AM DDIM mewn sgiliau Saesneg a mathemateg a gallwn weithio o gwmpas eich anghenion. Gallwch weithio tuag at gymhwyster hyd yn oed ar gyrsiau City and Guilds Tystysgrif Sgiliau Hanfodol Cymru ac AGORED Cymru.