Skip to main content

Diweddariad covid: newidiadau i fesurau o ddydd Llun 9 Mai

Yn unol â’r cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth Cymru yngylch newidiadau i gyfyngiadau covid ar gyfer lleoliadau addysgol, bydd y Coleg nawr yn dechrau symud tuag at sefyllfa lle y byddwn ni’n parhau i annog y cyfyngiadau, er nad oes gofyniad ar gyfer y rhan fwyaf ohonyn nhw.

Ar hyn o bryd, mae nifer yr achosion covid cadarnhaol yn parhau i fod yn gymharol uchel, ac felly mater i unigolion nawr fydd penderfynu a ddylen nhw barhau i ddilyn y mesurau.

Felly beth mae hyn yn ei olygu i’r Coleg?

O ddydd Llun 9 Mai:

Diweddariad ar fesurau covid ar ôl y Pasg

Rydyn ni’n parhau i weithio’n agos gyda’r Tîm Rheoli Digwyddiad lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod gennym fesurau yn eu lle i gadw ein myfyrwyr i ddysgu a chymuned y Coleg yn ddiogel. Ar hyn o bryd, mae’r rhain yn cynnwys:

Dwylo – dylech chi barhau i olchi a diheintio’ch dwylo
Wyneb - gwisgwch orchudd wyneb mewn mannau cymunol (oni bai eich bod wedi’ch eithrio)
Lle - cadwch bellter corfforol oddi wrth eraill.

Diweddariad gan y Pennaeth, Mark Jones (21 Ionawr)

Mae nifer o negeseuon gwahanol iawn yn y cyfryngau ar hyn o bryd ynghylch cyfyngiadau covid sy’n gallu bod yn ddryslyd iawn – ac felly roeddwn i’n meddwl y byddai’n ddefnyddiol creu darlun cliriach o sefyllfa’r Coleg.  

Ar hyn o bryd, does dim unrhyw gynigion ar gyfer unrhyw newidiadau yn y Coleg neu yn wir o fewn unrhyw sefydliad addysg yng Nghymru. Yn Abertawe, mae’r risg o haint yn parhau i fod yn uchel ac mae angen i ni i gyd barhau i fod yn wyliadwrus.