Microgymhwyster mewn Technolegau Ynni Adnewyddadwy
Ffôn: 01792 284098 E-bost: he@gcs.ac.uk
Trosolwg
Corff llywodraethu: Prifysgol Abertawe
Mae’r Microgymhwyster mewn Ynni Adnewyddadwy yn fodiwl Lefel 4, 20 credyd, sydd yn gymhwyster annibynnol. Nod y cymhwyster yw rhoi dealltwriaeth systematig o wybodaeth, problemau a mewnwelediadau cyfredol ym maes technoleg ynni adnewyddadwy.
Bydd pob technoleg yn cael ei archwilio o ran yr egwyddorion ffisegol perthnasol, y prif dechnolegau dan sylw, eu costau, eu heffaith amgylcheddol, maint yr adnodd adnewyddadwy posibl, yn ogystal â’u rhagolygon ar gyfer y dyfodol.
Canlyniadau dysgu’r cymhwyster yw:
- Cael gwybodaeth a dealltwriaeth o dechnegau sefydledig technolegau ynni adnewyddadwy, asesu’r systemau ynni adnewyddadwy sydd ar gael, dylunio a dewis dulliau casglu a storio priodol, yn ogystal ag optimeiddio a gwerthuso dyluniadau systemau
- Caffael a datblygu sgiliau ymarferol er mwyn dylunio systemau gwahanol a dadansoddi a rhagfynegi ei berfformiad. Gwerthuso perfformiad cyffredinol y systemau a dangos buddion y technolegau hyn
- Datblygu’r gallu i gymhwyso’r wybodaeth hon yn ymarferol, yn enwedig ar gyfer systemau solar thermol, solar ffotofoltäig a gwynt.
Gwybodaeth allweddol
Mae cyfuniadau o’r cymwysterau isod yn dderbyniol, a gallem dderbyn cymwysterau eraill heb eu rhestru hefyd ar sail unigol:
- Cynnig Safon Uwch arferol: DD
- Cynnig BTEC arferol: proffil BTEC Lefel 3 perthnasol Teilyngdod/Pasio neu Basio/Pasio/Pasio
- Cynnig Bagloriaeth Cymru arferol: Gradd C a DE ar lefel Safon Uwch
- Cynnig Mynediad i AU arferol: Diploma Pasio gyda chyfanswm o 60 credyd gan gynnwys 45 credyd Lefel 3, graddau pasio i gyd.
Bydd ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar gymwysterau mynediad sylfaenol arferol, e.e. myfyrwyr hŷn â phrofiad cyflogaeth perthnasol, yn cael eu hystyried ar sail unigol gan arweinydd y rhaglen ac aelodau eraill o dîm y rhaglen.
Addysgir y cymhwyster dros 25 awr gyswllt a 15 awr ar-lein.
Bydd y sesiynau yn cael eu torri i lawr fel a ganlyn:
- Un diwrnod (saith awr) fel cyflwyniad ar ddechrau’r microgymhwyster
- Un diwrnod (saith awr) yng nghanol y cwrs
- Un diwrnod (saith awr) tua diwedd y cwrs
- Bydd dwy sesiwn tiwtorial dwy awr ar gael ar-lein
- Bydd 15 awr olaf y cwrs yn waith ar-lein y bydd myfyrwyr yn gwneud eu ffordd trwyddo rhwng oriau cyswllt.
Bydd disgwyl i chi astudio yn eich amser eich hun er mwyn cwblhau’r cymhwyster hwn.
Asesu
Asesir y cymhwyster trwy’r tri asesiad canlynol:
- Aseiniad ysgrifenedig 1,000 gair
- Trafodaeth 10 munud
- Adroddiad 1,500 gair, gyda chyflwyniad 10 munud.
Mae’r microgymhwyster hwn yn gymhwyster annibynnol i weithwyr proffesiynol o fewn y diwydiant neu sy’n anelu at weithio yn y diwydiant. Mae microgymwysterau eraill ar gael y gallwch wneud cais amdanynt yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a Phrifysgol Abertawe.
Costau’r cwrs
£750 ond mae’n bosibl y bydd cyllid ar gael i’r rhai sy’n byw neu’n gweithio yn Abertawe.
Ffioedd ychwanegol
Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn:
- Teithio i ac o’r Coleg, neu’r lleoliad
- Llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. cof bach).
Cysylltu
Ffôn: Tîm Addysg Uwch 01792 284098
E-bost: he@gcs.ac.uk