Skip to main content

Microgymhwyster mewn Trin Dŵr

Rhan-amser
Lefel 4
SwanU
Tycoch
10 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Mae’r Microgymhwyster mewn Trin Dŵr yn fodiwl Lefel 4, 20 credyd, sydd yn gymhwyster annibynnol. Mae’n addas i’r rhai sydd am gael trosolwg cyffredinol o dechnolegau trin dŵr o safbwynt peirianneg.

Bydd y cymhwyster yn rhoi trosolwg o ansawdd dŵr a halogyddion mewn dŵr, gan ddarparu cyflwyniad i brosesau puro a thrin gwastraff dŵr. Bydd y cwrs yn cynnwys, os yw’n bosibl, ymweliad â gwaith trin dŵr/trin gwastraff dŵr.

Nod y cymhwyster yw edrych ar y mathau o brosesau sy’n cael eu defnyddio i drin dŵr i safon sy’n dderbyniol ar gyfer dosbarthu neu waredu’n ddiogel. Addysgir deunydd y pwnc i roi dealltwriaeth sylfaenol i chi o’r dulliau ffisegol, cemegol a biolegol a ddefnyddir yn y gweithrediadau hyn, gan gynnwys:

  • Clystyru a dyddodiad 
  • Gwaddodi
  • Prosesau hidlo trwy bilen.

Themâu craidd y cymhwyster yw:

  • Hafaliadau dylunio syml ar gyfer gwaith trin dŵr a dŵr gwastraff
  • Sut mae gweithfeydd trin dŵr yn gweithredu
  • Y prosesau gwyddonol sylfaenol sydd wrth wraidd y gwaith o ddylunio a gweithredu gwaith trin dŵr a dŵr gwastraff
  • Llifddalen proses
  • Safonau sy’n berthnasol i ddŵr yfed
  • Y dulliau trin priodol ar gyfer gwahanol fathau o ddŵr
  • Yr egwyddorion ffisiogemegol y tu hwnt i brosesau uned a ddefnyddir mewn prosesau trin dŵr. 

Gwybodaeth allweddol

Mae cyfuniadau o’r cymwysterau isod yn dderbyniol, a gallem dderbyn cymwysterau eraill heb eu rhestru hefyd ar sail unigol:

  • Cynnig Safon Uwch arferol: DD
  • Cynnig BTEC arferol: proffil BTEC Lefel 3 perthnasol Teilyngdod/Pasio neu Basio/Pasio/Pasio
  • Cynnig Bagloriaeth Cymru arferol: Gradd C a DE ar lefel Safon Uwch
  • Cynnig Mynediad i AU arferol: Diploma Pasio gyda chyfanswm o 60 credyd gan gynnwys 45 credyd Lefel 3, graddau pasio i gyd.

Bydd ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar gymwysterau mynediad sylfaenol arferol, e.e. myfyrwyr hŷn â phrofiad o gyflogaeth berthnasol, yn cael eu hystyried ar sail unigol gan arweinydd y rhaglen ac aelodau eraill o dîm y rhaglen.

Addysgir y cymhwyster dros 25 awr gyswllt a 15 awr ar-lein.

Bydd y sesiwn yn cael ei thorri i lawr fel a ganlyn:

  • Un diwrnod (saith awr) fel cyflwyniad ar ddechrau’r microgymhwyster
  • Un diwrnod (saith awr) yng nghanol y cwrs
  • Un diwrnod (saith awr) tua diwedd y cwrs a fydd yn cynnwys ymweliad â chyfleuster rheoli dŵr gwastraff
  • Bydd dwy sesiwn tiwtorial dwy awr ar gael ar-lein
  • Bydd 15 awr olaf y cwrs yn waith ar-lein y bydd myfyrwyr yn gwneud eu ffordd trwyddo rhwng oriau cyswllt.

Bydd disgwyl i chi astudio yn eich amser eich hun er mwyn cwblhau’r cymhwyster hwn. 

Mae’r microgymhwyster hwn yn gymhwyster annibynnol i weithwyr proffesiynol o fewn y diwydiant neu sy’n anelu at weithio yn y diwydiant. Mae microgymwysterau eraill ar gael y gallwch wneud cais amdanynt yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a Phrifysgol Abertawe. 

Asesir y cymhwyster trwy’r ddau asesiad canlynol:

  • Prosiect traethawd grŵp
  • Asesiad llyfr agored.