Skip to main content

Microgymhwyster mewn Toeon Gwyrdd

Rhan-amser
Lefel 4
SwanU
Tycoch
10 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Mae’r Microgymhwyster Toeon Gwyrdd yn fodiwl Lefel 4, 20 credyd, sydd yn gymhwyster annibynnol. Bydd yn cwmpasu toeon gwyrdd yn yr amgylchedd adeiledig, o’r cysyniad i’r camau dylunio, cynllunio, gweithredu, cynnal a chadw a stiwardiaeth. Mae’r testunau astudio yn edrych ar y dechneg seilwaith gwyrdd arbennig hon sy’n cyd-fynd â deddfwriaeth, polisi ac arweiniad, ac yn rhoi’r dechneg ar waith mewn trefi a dinasoedd, o adeiladau newydd i ôl-ffitio pennai tai presennol â thoeon gwyrdd/byw.

Nod y cymhwyster yw:

  • Cyflwyno dysgwyr i egwyddorion sylfaenol toeon gwyrdd a’u dyluniad
  • Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o doeon gwyrdd mewn perthynas â’r argyfwng hinsawdd.

Canlyniadau dysgu’r cymhwyster yw:

  • Egluro gwerth marchnad fyd-eang a photensial toeon gwyrdd
  • Nodi buddion toeon gwyrdd ar gyfer gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd
  • Cyfrifo buddion to gwyrdd penodol ar gyfer gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd 
  • Arddangos prosiect cynllun to gwyrdd o’r cam dylunio i’r cam gweithredu.

Gwybodaeth allweddol

Mae cyfuniadau o’r cymwysterau isod yn dderbyniol, a gallwn dderbyn cymwysterau eraill heb eu rhestru hefyd ar sail unigol:

  • Cynnig Safon Uwch arferol: DD
  • Cynnig BTEC arferol: proffil BTEC Lefel 3 perthnasol Teilyngdod/Pasio neu Basio/Pasio/Pasio
  • Cynnig Bagloriaeth Cymru arferol: Gradd C a DE ar lefel Safon Uwch
  • Cynnig Mynediad i AU arferol: Diploma Pasio gyda chyfanswm o 60 credyd gan gynnwys 45 credyd Lefel 3, graddau pasio i gyd.

Bydd ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar gymwysterau mynediad sylfaenol arferol, e.e. myfyrwyr hŷn â phrofiad o gyflogaeth berthnasol, yn cael eu hystyried ar sail unigol gan arweinydd y rhaglen ac aelodau eraill o dîm y rhaglen.

Addysgir y cymhwyster dros 42 awr o gyswllt ffurfiol, gan gynnwys:

  • 8 awr o addysgu yn yr ystafell ddosbarth
  • 8 awr o ymweliadau â safleoedd 
  • 8 awr o sesiynau grŵp
  • 4 awr o siaradwyr gwadd
  • 4 awr o weithdai aseiniad
  • 10 awr o gyflwyniadau prosiect

Addysgir y cwrs ar-lein ac yn bersonol er mwyn rhoi’r hyblygrwydd i chi astudio ar lefel uwch. Bydd ymweliadau â safleoedd pan fo’n bosibl, a fydd yn digwydd ar ddiwrnodau pan fydd amser cyswllt wedi’i gynllunio. 

Nod y microgymhwyster hwn yw bod yn gymhwyster annibynnol i weithwyr proffesiynol o fewn y diwydiant neu sy’n anelu at weithio yn y diwydiant. Mae microgymwysterau eraill ar gael y gallwch wneud cais amdanynt yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a Phrifysgol Abertawe. 

Asesir y cymhwyster trwy’r ddau asesiad canlynol:

  • Cynllun prosiect 3,000 o eiriau
  • Cyflwyniad poster.