Skip to main content
Campws Tycoch, Coleg Gwyr Abertawe

DIWEDDARIAD: Gwybodaeth bwysig ynghylch Campws Tycoch 28 Medi

Ymhellach i’n diweddariad yr wythnos diwethaf am y RAAC (Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth) sydd yn bresennol mewn rhan fach, ynysig o Gampws Tycoch Coleg Gŵyr Abertawe, mae peirianwyr strwythurol bellach wedi cwblhau adolygiad manwl o’r campws.

O ganlyniad, rydym wedi penderfynu cau dwy ystafell – un ystafell ddosbarth ac un ystafell staff – ar lawr D yr adeilad – tra bod gwaith adfer yn cael ei wneud.

Fe ddatgelodd yr adolygiad nifer o dreiddiadau ôl-adeiladu hefyd yng nghoridor y llawr uchaf a bydd angen gwneud gwaith dilynol i’w cywiro. Tra byddwn yn ymgymryd â’r gwaith hwn rydym wedi cael ein cynghori i roi nifer o bropiau dros dro ar waith.

28/09/23