Diwrnod Agored Canolfan Broadway - 6 Mehefin
Diwrnod Agored Canolfan Broadway
Dydd Mercher 6 Mehefin
10am – 4pm
Ydych chi’n ystyried gyrfa mewn trin gwallt, harddwch neu therapïau cyfannol?
Os felly, dewch i’n diwrnod agored ar 6 Mehefin lle gallwch gael mwy o wybodaeth am ein cyrsiau amser llawn a rhan-amser sy’n dechrau ym mis Medi.
Gallwch hefyd edrych o gwmpas ein cyfleusterau dysgu/addysgu gwych sy’n cynnwys ardaloedd trin gwallt proffesiynol, ystafelloedd triniaeth hamddenol a sba moethus.
Llwyddiant i ddwy fyfyrwraig harddwch
Mae dwy fyfyrwarig o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill gwobrau yn un o gystadlaethau nodedig Salon Cymru.
Daeth Amanda Rees yn gyntaf yn y digwyddiad yng Nghaerdydd, wedi’i dilyn yn agos gan Katie Jennings a ddaeth yn drydydd. Ar hyn o bryd, mae’r ddwy fyfyrwraig yn dilyn cwrs Lefel 2 Colur Cosmetig yng Nghanolfan Broadway y Coleg.
Ar gyfer y gystadleuaeth, bu’n rhaid iddynt ddangos gwahanol dechnegau celfyddyd coluro megis aroleuo a cherflunio.
Bariton 'Syniadau Mawr' yn ymweld â myfyrwyr Harddwch
Roedd y Model Rôl Syniadau Mawr a’r bariton amldalentog o Gymru Mark Llewellyn Evans wedi cynnal diwrnod o weithdai yn ddiweddar yng Nghanolfan Broadway.
“Roedd hyn yn gyfle gwych i’r therapyddion harddwch newydd gael cipolwg ar y gyrfaoedd y gallen nhw eu dilyn yn y diwydiant ffilmiau a cherddoriaeth,” dywedodd Swyddog Menter y coleg Lucy Turtle, a drefnodd y digwyddiad.
Digwyddiad gwallt a harddwch yn ysbrydoli gweithwyr proffesiynol y diwydiant
Yn ddiweddar roedd Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal noson i ddathlu ac ysbrydoli talent Cymru ar draws y sector trin gwallt a harddwch.
Roedd staff, myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol lleol o’r byd diwydiant yn bresennol yn y dosbarth meistr trin gwallt a choluro ym Mhlas Sgeti. Roedden nhw wrth eu boddau gyda’r arddangosiadau ymarferol gan gyfarwyddwr y salon (a chyn-fyfyriwr) Casey Coleman a Chris Howells, artist coluro rhyngwladol i Laura Mercier.
Cantores / ysgrifennwr caneuon yn perfformio gig arbennig i’r myfyrwyr
Daeth y gantores / ysgrifennwr caneuon - a sêr rhaglen The Voice y BBC – Bronwen Lewis i ymweld â champws Tycoch Coleg Gŵyr Abertawe yn ddiweddar.
Roedd Bronwen wedi cwrdd â myfyrwyr Gwallt a Harddwch cyn perfformio rhai o ganeuon o'i halbwm newydd, Pureheart.
Cafwyd dangosiad arbennig o'r ffilm Pride hefyd, y mae Bronwen ei hun yn ymddangos ynddi. Yn seiliedig ar stori wir, mae Pride yn adrodd hanes grŵp o ymgyrchwyr lesbiaid a hoyw a gododd arian i helpu'r teuluoedd a gafodd eu heffeithio gan streic y glowyr yn 1984.