Coleg yn cyflwyno prentisiaeth arloesol newydd Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch dros ben o gyhoeddi argaeledd llwybr prentisiaeth newydd sbon o’r enw Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr. Dyluniwyd y llwybr newydd hwn i ateb anghenion cyflogwyr a bylchau sgiliau yn yr ardal leol, gan roi modd i ddysgwyr ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol wrth weithio a dysgu.
Coleg Gŵyr Abertawe i gael sbardun sgiliau o’r radd flaenaf
Mae Coleg Gŵyr Abertawe ar fin cael sbardun sgiliau o’r radd flaenaf ar ôl cael ei ddewis i ymuno â rhaglen hyfforddiant elit.
Nod y Coleg yw sbarduno ansawdd a darpariaeth hyfforddiant technegol a galwedigaethol trwy drosglwyddo arbenigedd a gwybodaeth o’r radd flaenaf i helpu i ddatblygu addysgwyr a dysgwyr.
Wythnos Addysg Oedolion 2020 - Sesiynau blasu am ddim
Trwy gydol Wythnos Addysg Oedolion 2020, bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig amrywiaeth o sesiynau blasu am ddim.